Arddangosfa:Gwisg Galico Cymru
Cynfas brodwaith cymunedol yw Gwisg Galico Cymru, lle i bawb gael dweud eu dweud trwy bwytho.
Am 10 wythnos, tra bydd locomotif Penydarren i ffwrdd, bydd y wisg yn cael ei harddangos.
Bydd artist tecstilau lleol, Menna Buss, yn arwain sesiynau brodio ar gyfer grwpiau cymunedol yn ogystal â sesiynau cyhoeddus agored.
Yn benodol, mae Gwisg Galico Cymru yn ceisio denu lleisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd wedi cael eu hymylu, a'r rheini sydd wedi rhoi tro ar frodio a'r dibrofiad hefyd.
Yn ystod sesiynau, caiff cyfranwyr eu gwahodd i ddylunio a phwytho patrwm sy'n ymateb i’r thema Cymru: Ddoe, Heddiw ac Yfory.
Bydd brodwaith Gwisg Galico Cymru yn tyfu – galwch nôl i weld sut!
Am fanylion cymryd rhan, ewch i:
Hanes Gwisg Galico Cymru...
Yn 2022, cafodd project rhyngwladol enwog Kirstie Macloed, Y Wisg Goch, ei arddangos yn yr Amgueddfa.
Trwy gasglu 'lleisiau trwy bwythau' gan grwpiau amrywiol ar draws y byd, mae'r project – sydd bellach yn ei 15fed flwyddyn – yn dal i deithio ac ysbrydoli.
Cafodd Gwisg Galico Cymru ei chreu mewn partneriaeth â'r Amgueddfa. Dyma 'ferch' gyntaf y Wisg Goch. Bellach mae llawer iawn o rai eraill yn cael eu datblygu ar draws y byd. Byddan nhw'n cael eu harddangos gyda'i gilydd yn y dyfodol.
Gwybodaeth
Digwyddiadau perthnasol
Ymweld
Oriau Agor
Ar Agor yn ddyddiol 10am-5pm
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.
Parcio
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Mynediad
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Canllaw MynediadMap safle
Lawrlwythwch map o’r safleLleoliad
Bwyta, Yfed, siopa
- Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd