Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
**Manylion:**
- Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
- Dan ofal tiwtor cyfeillgar, hynod brofiadol: Chris Jones
- Awyrgylch anffurfiol, hamddenol.
- Sylw i bawb, gyda lle i uchafswm o 12 person.
- Bydd siwtiau gwenyn a menig yn cael eu darparu, ac rydyn ni'n argymell gwisgo esgidiau cerdded neu wellingtons.
- Oedran: 16+ (rhaid i blant 16-18 fod yng nghwmni oedolyn sy'n cymryd rhan)
- Mae'r cwrs yn hygyrch i bawb.
- Iaith: Cynhelir y cwrs yn newis iaith yr hwylusydd, sef Cymraeg
- Darperir lluniaeth ysgafn.
**Strwythur y Cwrs:** - Mae'r cwrs yn cynnwys cyfuniad o sesiynau dosbarth a gwaith ymarferol gyda'r gwenyn.
**Sesiwn y Bore:**
Bydd y diwrnod yn dechrau gyda hanfodion cadw gwenyn gan gynnwys: cylch bywyd y gwenyn, rheolau'r gwenyndy, paratoi'r cwch, gofalu am offer, a dysgu mwy am ryfeddodau gwenyn a pheillio.
**Sesiwn y Prynhawn:**
Ar ôl cinio bydd cyfle i ymgolli yn suo'r gwenyn ymhlith y cychod ar y balconi, wrth fwynhau sesiwn ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys gwisgo siwtiau gwenyn, cwrdd â'r gwenyn, ac agor y cychod er mwyn adnabod y gwahanol fathau o wenyn a deall eu rolau gwahanol.
*Nid oes cinio yn rhan o bris y tocyn. Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle.*
Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Mae hon yn sesiwn Gymraeg
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd