Cwrs:Cyflwyniad i'r Llythrenwasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Dewch i gael eich dwylo ar hanes yn ein gweithdy diwrnod – cewch ddysgu am argraffu llythrenwasg a chreu detholiad o brintiau i fynd adref gyda chi! Dan arweiniad eich tiwtor, y gwneuthurwr printiau Mark Pavey, bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno i gysyniadau, hanes a’r gwahanol ffyrdd o ddefnyddio’r llythrenwasg yn ogystal â rhoi profiad ymarferol i chi o wahanol fathau o weisg a thechnegau argraffu. Mae'r gweithdy llawn hwyl hwn yn addas i ddechreuwyr. 

**Beth i'w Wisgo:** 
Gwisgwch ddillad addas ar gyfer diwrnod o argraffu ac esgidiau cyfforddus sy'n gorchuddio eich traed yn gyfangwbl. 


**Hygyrchedd:** 
Mae lleoliad y gweithdy yn hygyrch i bawb. 


**Cyfyngiadau Oedran:** 
⁠16+ (Rhaid i blant 16-18 fod yng nghwmni oedolyn sy'n cymryd rhan.) 


**Beth yw Argraffu Llythrenwasg?** 
Cyn oes y cyfrifiaduron a thechnegau argraffu modern, roedd y byd yn dibynnu ar y llythrenwasg – un o'r dyfeisiau pwysicaf erioed yn ôl llawer. Mae argraffu llythrenwasg yn defnyddio teip metel neu bren sy'n cael ei incio â llaw neu gan y wasg. Caiff papur neu ddefnydd ei wasgu ar y teip gan greu argraffiad hardd. 


**Amseroedd:** 
11 AM - 4 PM 


**Beth mae'r cwrs yn ei gynnwys?** 
- Lluniaeth ysgafn 
- Darperir yr holl ddeunyddiau (inc, papur, offer a chyfarpar) 
- Byddwch yn cael mynd â detholiad o ddeunyddiau wedi'i hargraffu adre gyda chi. 


*Nid yw cinio yn rhan o bris y tocyn. Mae croeso i chi ddod â chinio gyda chi neu ymweld â'r caffi ar y safle.*


**Iaith y gweithdy:** 
Mae ein rhaglen yn cynnwys cyrsiau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog. Cynhelir y cwrs hwn yn newis iaith yr hwylusydd, sef Saesneg.


**Eich Tiwtor:** 
Gwneuthurwr printiau ac addysgwr yw Mark Pavey. Mae'n byw yn Abertawe ac mae ganddo 20 mlynedd o arbenigedd mewn argraffu llythrenwasg. Mae'n cynhyrchu ystod o'i brintiau a'i ddyluniadau ei hun, a hefyd yn cynnal gweithdai argraffu creadigol ar gyfer pobl o bob oed, gan gefnogi dysgu crefftau traddodiadol ochr yn ochr â thechnoleg gyfoes.


**Y Gweithdy:** 
**11 AM - 1 PM:** 
Cyflwyniad – Bydd y mynychwyr yn cael gweld yr offer, gwahanol fathau o brintiau a hanes y broses cyn argraffu detholiad bach o ddyluniadau ar wasg brofi. –
**1 PM - 1:30 PM:** 
Egwyl Lluniaeth
**1:30 PM - 3:30 PM:** 
Argraffu Poster – Yn y prynhawn, bydd mynychwyr yn cael eu cyflwyno i Wasg Stanhope godidog yr amgueddfa o'r 19eg ganrif a byddant yn gweithio gyda'i gilydd i greu poster cerdd unigryw. Gan ddefnyddio hen deip pren, bydd mynychwyr yn gosod eu llinell eu hunain o'r gerdd â llaw, (yn eich iaith ddewisol) fydd yn cael ei gosod gyda'r gweddill i greu poster unigryw. Bydd pob mynychwr yn cael ei brint ei hun i fynd adred gyda nhw. 
**3:30 PM - 4 PM:** 
Gorffen 


*Nid yw cinio yn rhan o bris y tocyn. ⁠Mae croeso i chi ddod â chinio gyda chi neu ymweld â'r caffi ar y safle.*


Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
 

Gwybodaeth

25 Ionawr 2026, 11am - 4pm
Pris £55 | £45 Gostyngiad
Addasrwydd Oedolion
l
Llythrenwasg
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau