Digwyddiad:Graft Bach

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae ein sesiynau “chwarae’n rhydd” yn cael eu harwain gan blant, yn annog creadigrwydd, archwilio, a chysylltiad dwfn â natur i gyd o fewn amgylchedd diogel gardd GRAFT yr amgueddfa.

Gwyddom fod amser a dreulir yn yr awyr agored yn hanfodol ar gyfer iechyd a datblygiad, ac yn rhoi cyfle i deuluoedd gysylltu a thyfu gyda’i gilydd.

Mae’r sesiynau hyn ar gyfer teuluoedd sydd â phlant o dan 5 oed.
Maent wedi’u targedu at deuluoedd a allai elwa o amgylchedd cefnogol ac diogel lle i gysylltu â natur.
Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, cysylltwch â graft@museumwales.ac.uk

Os bydd y tywydd yn arbennig o wael, byddwn yn dod i mewn i’r amgueddfa i barhau â’r chwarae. Ceir cludiant bws a lluniaeth am ddim ym mhob sesiwn.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, mae archbu’n hanfodol. 

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi! 

Gwybodaeth

15, 29 Ebrill, 13 Mai, 10, 24 Mehefin, 8, 15 Gorffennaf, 9, 30 Medi, 14, 21 Hydref, 11, 25 Tachwedd a 9 Rhagfyr 2026, 10yb - 12yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd phlant dan 5 oed
Archebu lle Cysylltwch graft@museumwales.ac.uk
Graft Bach
cae tan logo
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau