Digwyddiad: Sioe balŵn boncyrs
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Becky Kitter o CBeebies a Ha Ha Haires fydd yn cyflwyno sioe egnïol, ryngweithiol. Gyda balŵns, meim a llond trol o hwyl i’r teulu.
Mae’r Sioe balŵn boncyrs yn sioe unigryw sy’n llawn comedi, hwyl syrcas, cerddoriaeth, hud a lledrith a llawer o falŵns. Mae balŵn syml yn cael ei throi'n estron, hofrennydd a deifiwr sgwba, mae aelodau'r gynulleidfa'n cael eu trawsnewid yn greaduriaid balŵn o flaen eich llygaid! Gyda balŵns, meim a llawer o hwyl i'r teulu cyfan.
Plant - £2.50