Pobl, Cymunedau a Bywydau
Hanes cymdeithasol diwydiant Cymru
Dewch i weld sut roedd diwydiant yn effeithio ar y ffordd roeddem ni'n byw - yn unigolion, grwpiau neu sefydliadau - ac agorwch eich llygaid i raddfa treftadaeth forol Cymru.
Myfyriwch ar arddangosiadau traddodiadol o wrthrychau eiconig a chwarae gyda'r dechnoleg synhwyraidd ddiweddaraf sy'n ymateb i ystumiau dwylo am brofiad rhyngweithiol iawn.Archwiliwch y dirwedd ddiwydiannol â map fideo panoramig neu dysgwch am fywydau go iawn o'r gorffennol drwy fapiau digidol o hen strydoedd y gellir eu hadnabod heddiw.
Dewch o hyd i'r egni y tu ôl i'r diwydiant ac olrheiniwch rym y môr gyda llinell amser fideo sy'n mapio hanes traddodiad morol Cymru.
Darganfyddwch wreiddiau ein sefydliadau a'n cymunedau mwyaf poblogaidd a dylanwadol – o’r undebau llafur, Cymdeithas y Glowyr, Gwasanaeth Iechyd Gwladol i Seiri Rhyddion, Urdd y Fforestwyr a Merched y Wawr.
Mae'r warws yn trosglwyddo'r awenau i chi. Rhwydd hynt i chi balu'n ddwfn am wybodaeth yn yr arddangosfeydd a'r arddangosiadau.