Trafnidiaeth, Deunyddiau a Rhwydweithiau
Dros y tair canrif ddiwethaf mae Cymru wedi bod yn lleoliad ar gyfer nifer o ddyfeisiadau a datblygiadau arloesol mewn mwyngloddio, cynhyrchu metel a thrafnidiaeth.
Ym 1800 marchogaeth oedd y dull cyflymaf o deithio ar y tir. Ganrif yn ddiweddarach, roedd gan y rhan fwyaf o’r byd rwydweithiau rheilffyrdd, a threnau a oedd yn teithio ar gyflymderau hyd at chwedeg milltir yr awr. Locomotif Stêm Richard Trevithick gychwynnodd y trawsffurfiad hwn yn hanes y byd ym 1804.
Dechreuodd Wagenni Glo fel yr un sy’n cael ei arddangos ymddangos ar rwydwaith rheilffyrdd Prydain tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wedi peintio ar ei ochr y mae enw’r Ocean Coal Company – un o brif gynhyrchwyr glo stêm de Cymru yn ei ddydd.
Erbyn dechrau’r 1890au, Cymru oedd yn cynhyrchu wythdeg y cant o dunplat y byd. Mae ein Melin Rholio Tunplat yn esiampl o awtomatiaeth o’r ugeinfed ganrif a drawsffurfiodd ddiwydiant a oedd yn llafur-ddwys cyn hynny. Yn ei anterth yn y 1920au, cyflogai dros 30,000 o bobl yng Nghymru.
Dyma rai o’r uchafbwyntiau, a bydd gweithfannau rhyngweithiol yn eich galluogi i dreiddio’n ddyfnach i rwydweithiau a diwydiannau lle chwaraeodd y gwrthrychau hyn ran hanfodol.