Teuluoedd

Teulu

Mae hwyl di-ri a gweithgareddau dychmygus lle gall pob aelod o'r teulu fwynhau a chymryd rhan ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae rhywbeth yno i ddiddori ymwelwyr o bob oed, o weithdai ymarferol, diwrnodau thematig hwyliog, sgrinio ffilmiau a chelf a chrefft. Mae pob gweithgaredd am ddim oni nodir yn wahanol.

Cofiwch gofrestru i dderbyn

cylchlythyr ar-lein misol Amgueddfa Cymru sydd yn llawn syniadau ar sut i ddiddanu'r plant.

Caffi'r Glannau

Ymlaciwch yng Nghaffi’r Glannau ar ôl crwydro’r orielau.

  • Ar agor bob dydd o 10am i 4.30pm
  • Bwyd poeth ar gael o 10am i 3pm
  • Dewis llysieuol, dietegol a bwydlen blant ar gael
  • Digonedd o seddi bistro cyfforddus mewn gofod agored braf
  • Ardal chwarae i blant a seddi uchel ar gyfer babanod

Dewis i blant

Gallwch chi lenwi bocs bwyd i blentyn â phum eitem o’ch dewis chi gan gynnwys brechdanau, sudd ffrwythau, danteithion neu iogwrt. Mae bwydlen boeth i blant hefyd ar gael.

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Caffi ac ardal bicnic awyr agored
  • Mynediad a pharcio i'r anabl
  • Cadeiriau olwyn ar gael drwy ofyn
  • Toiledau hygyrch a chyfleusterau newid babi
  • Ty bach Lleoedd Newid
  • Loceri
  • WiFi am ddim

Rhaid i blant dan 11 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.