Lleoliadau Datblygu Sgiliau
Ydych chi’n teimlo bod rhywbeth yn eich rhwystro rhag datblygu sgiliau gwaith, neu’n bwrw eich hunanhyder? Efallai y gall Lleoliadau Datblygu Sgiliau eich helpu i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle a sgiliau trosglwyddadwy.
Mae Lleoliadau Datblygu Sgiliau’n cynnig cyfle gwerth chweil i bobl sydd:
- 16 oed a throsodd
- yn wynebu rhwystrau i gyflogaeth, er engraifft rhywun ag anabledd dysgu
- ddim mewn addysg ffurfiol, yn gyflogedig neu yn cwblhau hyfforddiant
- yn gallu gwneud y lleoliad yn annibynnol (cewch gefnogaeth mentor gan ein staff)
Gallwn ni weithio’n agos gyda chi i deilwra lleoliad i'ch diddordebau a'ch anghenion. Gallech chi gyfrannu hanner diwrnod i ddiwrnod llawn yr wythnos, am hyd at chwe mis – yn dibynnu ar y lleoliad a'ch anghenion chi.
Rydyn ni wedi gweithio gydag unigolion, elusennau a cholegau i ddarparu lleoliadau ar gyfer pobl awtistig, pobl ag anableddau dysgu, pobl â chyflyrau iechyd meddwl, ffoaduriaid a phobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd (NEET). Sylwch nad yw’r rhestr hon yn gyfyngedig nac yn gyflawn.
Gallwn gynnig Lleoliadau Datblygu Sgiliau ym mhob un o’n hamgueddfeydd:
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Eisiau mynd amdani?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn Lleoliad Datblygu Sgiliau neu’n holi ar ran rhywun arall, e-bostiwch yr Adran Gwirfoddoli neu ffoniwch (029) 2057 3002. Nodwch eich diddordeb mewn Lleoliad Datblygu Sgiliau a pha Amgueddfa/maes sydd o ddiddordeb. Mae cryn alw am leoliadau, a gallwn ni ddim gwarantu lleoliad i bawb – ond fe wnawn ein gorau!
Mae Lleoliadau Datblygu Sgiliau yn cael eu llenwi ar sail ymholiad ar hyn o bryd. O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn hysbysebu os oes gennym agoriad penodol. Byddant yn cael eu hysbysebu yma.
Nid ydym yn hysbysebu unrhyw Leoliadau Datblygu Sgiliau ar hyn o bryd