Digwyddiadau

Digwyddiad: Haf o Hwyl: Wedi ei grym gan gymuned

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen
10 Medi 2022, 11yb - 3yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Dyma logo gyda'r geiriau Haf o Hwyl, Summer of fun wedi eu hysgrifennu mewn glas ar gefndir hufen, uwchben y tecst mae amlinelliad o dri calon, y cyntaf yn binc gyda'r ail yn goch ar trydydd yn felyn

Dewch i ymuno â ni yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gyfer ein gweithdy cerdded i mewn ‘Powered by Community’, i ddathlu amrywiaeth y cymunedau ym mhyllau glo Cymru. O 11am-3pm ar ddydd Sadwrn Medi 10fed, a gall unrhyw un alw heibio ar y diwrnod.

Bydd y prosiect hwn yn ceisio annog pobl ifanc 10-15 oed i archwilio hanes amrywiaeth o fewn y cymunedau glofaol ac am ffigurau blaenllaw a helpodd i lunio hanes mwyngloddio glo heddiw.

Yn gyntaf, bydd cyfranogwyr yn cael eu tywys ar daith o amgylch baneri’r amgueddfa sy’n cael eu harddangos ar hyn o bryd, ac yn dilyn hynny byddant yn cael eu gwahodd i ddylunio a chreu eu baneri eu hunain yn edrych ar sut y gallai’r hanes hwn fod wedi effeithio ar eu bywydau. Darperir yr holl ddeunyddiau a chyfarwyddiadau.

Mae’r gweithdy ‘Powered by Community’ wedi’i ddyfeisio gan yr artist Abigail Fraser ar gyfer rhaglen allgymorth 9to90 Artistiaid GS, Abertawe, mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Cymru a Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru.

Digwyddiadau