Digwyddiad: Helfa Basg Amgueddfa Lofaol Cymru

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen
Dewch i chwilio am y cwningod bach sy’n cuddio o gwmpas yr Amgueddfa!  

Cwblhewch bob her i hawlio gwobr wych! 

Tocynnau 

Beth ydw i'n ei gael?    

Taflen helfa A4 llawn lliw dwyieithog.

Gwobr  (ddim yn fwytadwy)           

Gwybodaeth Pwysig:

Bydd y llwybrau yn cael eu gwerthu ar-lein tan hanner nos Dydd Iau 17 Ebrill. 

Gallwch brynu eich llwybrau ar y safle o ddydd Gwener 18 Ebrill tan ddydd Llun 21 Ebrill tan 3:30pm. Cerdyn yn unig.   

Gallwch gwblhau'ch llwybr unrhyw ddiwrnod o ddydd Gwener 18 - dydd Llun 21 Ebrill.  

Ni ellir cael ad-daliad am y taflenni ac ni ellir eu cyfnewid am unrhyw safle arall.           

Oedran – Addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau.    

Cost – Mae'r gost yn cynnwys un daflen ac un wobr siocled.  Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.  

Mae Llwybrau Pasg ar gael yn safleoedd eraill Amgueddfa Cymru, ond gall y gwobrau, costau a’r llwybrau fod yn wahanol ym mhob safle. 

Lle bo'n bosibl, rydyn ni wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto.   

Mae gostyngiad o 10% ar docynnau’r Helfa Basg i Aelodau Amgueddfa Cymru. 

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.




Gwybodaeth

18–21 Ebrill 2025, 10am - 3.30pm
Pris £3 yr helfa
Addasrwydd Teuluoedd
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau