Digwyddiadau

Digwyddiad: Gŵyl Archaeoleg: Big Pit

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen
27 a 28 Gorffennaf 2023, 10am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw heibio

Dewch i ddysgu am hanes Big Pit a chymoedd y de mewn diwrnod i’r teulu cyfan.

Cewch archwilio’r rhwydwaith o fwyngloddiau o dan eich traed trwy gyfrwng mapiau trawiadol, wedi’u creu gan Lee Reynolds, tirfesurydd Big Pit, mewn project o’r enw ‘Y Ddinas Dywyll’. Oeddech chi’n gwybod – yn y 1970au fe allech chi gerdded yr holl ffordd (bron) dan y ddaear o Big Pit i Gaerfyrddin! Bydd cyfle i sgwrsio â’n tywyswyr glofa ynghylch bywyd mewn pwll glo.

Bydd yma ddigon i deuluoedd ei wneud hefyd gydag arbrofion ar sut i symud dŵr – pwysig iawn o dan y ddaear er mwyn atal llifogydd yn y pyllau. Falle y byddai’n syniad da dod â’ch welis! 

Weithiau mae pobl yn dod o hyd i ffosilau mewn pyllau glo – bydd cyfle i weld ffosilau go iawn, a gwneud rhai allan o glai. Cewch eich swyno gan straeon am hud a lledrith y cymoedd, neu os mai crefftau sy’n mynd â’ch bryd beth am greu caneri bach, a dilyn y llwybr o gwmpas Big Pit i ddysgu mwy am hoff aderyn y glöwr? 

Mae ein curaduron yn awyddus hefyd i weld pa drysorau archeolegol sydd gennych chi gartref, yr hoffech chi wybod mwy amdanyn nhw – o hen lestri gleision i docynnau lamp. Os oes gennych chi unrhyw beth wedi’i ddarganfod o ardal Blaenafon ac eisiau gwybod mwy amdano, dewch â fe gyda chi!

Sylwer – fe wnaiff y curaduron helpu i egluro beth yw’r gwrthrych ond allan nhw ddim rhoi unrhyw bris ariannol ar eich eitem.

Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau ŵyl Archaeoleg..

 

 

Digwyddiadau