Digwyddiad:Amser Stori gyda Siôn Corn
Bydd croeso cynnes i'ch plant ddod i mewn i’n bwthyn clyd ar gyfer stori a adroddir gan Siôn Corn.
Bydd pob plentyn yn derbyn anrheg a bydd cyfle i chi dynnu lluniau.
Ar ôl ymweld â Siôn Corn, cewch fwynhau gwneud crefftau Nadoligaidd (yn rhan o bris eich tocyn).
Gwybodaeth Bwysig:
Mae angen tocyn ar gyfer pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan.
Oherwydd prinder lle, dim ond un berson na fydd yn cymryd rhan gaiff fod efo pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan.
Mae pobl nad ydynt yn cymryd rhan yn cynnwys plant dan 3 oed, babanod mewn breichiau, gofalwyr, oedolion a phobl hŷn.
Nid oes angen tocyn ar bobl nad ydynt yn cymryd rhan ond ni fyddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft ac ni fyddant yn derbyn anrheg gan Siôn Corn.
Dylai deiliaid tocynnau gyrraedd yn brydlon a dim mwy na 15 munud cyn amser cychwyn eu sesiwn.
Caniatewch hyd at 15 munud i gerdded o faes parcio/prif adeilad yr Amgueddfa.
Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio.
Codir tâl o £5 y diwrnod am barcio.
Mae’r digwyddiad a’i weithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer plant 3+ oed.
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.
Rhaid gadael pramiau y tu allan.
Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn.
Gostyngiad o 10% i Aelodau, dewch yn aelod heddiw
Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Ymweld
Bydd ein horiau agor yn newid dros y gaeaf. O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 31 Ionawr 2025, byddwn ni ar agor rhwng 9.30yb-4yp bob dydd. Bydd teithiau tanddaearol ar gael rhwng 10yb-3yp.
Parcio
Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleLleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd