Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni am sgwrs â darluniau gan Brifysgol Queen’s, Belfast a’r Twentieth Century Society, a darganfod arwyddocâd hanesyddol, cymdeithasol a phensaernïol Baddondai Pen Pwll.
Wedi’u disgrifio ym 1939 fel ‘arbrawf cymdeithasol anferthol ar ffurf bensaernïol’, roedd Baddondai Pen Pwll yn rhaglen les flaengar ac arloesol, a hynny dros ddau ddegawd cyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael ei sefydlu. Er hyn, mae eu hanes bron â bod yn anhysbys, a dydy gwerth treftadaeth posibl enghreifftiau sy’n goroesi heb ei archwilio digon.
Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael, archebwch docynnau nawr i gadw lle: https://secure.c20society.org.uk/Default.aspx?tabid=62&EventId=1094
Hoffech chi ddysgu mwy a chymryd rhan mewn project ymchwil ar Faddondai Pen Pwll? Ymunwch â’n gweithdy dewisol ar ôl y sgwrs i glywed sut allwch chi gyfrannu at broject dan arweiniad Prifysgol Queen’s, Belfast a’r Twentieth Century Society.
Yn dilyn y sgwrs, mae croeso i chi ymweld â’r Baddondai Pen Pwll ac arddangosfeydd yr Amgueddfa.
Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg. Os hoffech glywed y sgwrs yn y Gymraeg, e-bostiwch:
bigpit@museumwales.ac.uk i roi gwybod i ni ymlaen llaw.
Mae'r sgwrs hon yn cael ei chynnal yn Ystafell Kearsley yn y Baddondai Pen Pwll sydd ar frig safle'r Amgueddfa a thua 10 munud o gerdded o'r fynedfa. Gadewch ddigon o amser i gerdded i'r Baddonau cyn dechrau'r sgwrs. Os oes gennych ofynion hygyrchedd, rhowch wybod i aelod o staff wrth gyrraedd.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd