Digwyddiad: Dirgelion Danddaear – Chwedlau’r Pyllau Glo

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â'n Storïwr Goruwchnaturiol yn ei fwthyn clyd i fwynhau chwedlau gwerin hynafol am fwystfilod pyllau glo Cymru. 

Dewch i ddysgu am y Tylwyth Teg cyfriniol gyda straeon am y Coblynau rhyfeddol a'r Cawr Glo barus. 

Wedi'r straeon arallfydol, rhowch gynnig ar greu Map o Chwedlau Gwerin Cymru, gan ddysgu am fôr-forynion drygionus, llyffantod hynafol, baeddod melltigedig a dreigiau, wrth gwrs!          

Cliciwch yma i ddarganfod beth arall sydd gennym i'w gynnig dros hanner tymor gan gynnwys Coblynnau Big Pit, Byti'r Arth a'n Penwythnos Taith Dan Ddaear AM DDIM.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Bydd y sesiynau Adrodd Stori yn cael eu cynnal yn Adeilad Baddondai Pen Pwll

Mae’r sesiynau archebu ymlaen llaw adrodd straeon yn 45 munud o hyd.  

Gallwch gwblhau eich Map o Chwedlau Gwerin Cymru unrhyw bryd rhwng 11am-4pm.

Nid oes angen tocyn ar bobl nad ydynt yn cymryd rhan ond ni fyddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft. 

Rhaid gadael pramiau y tu allan.

Dylai deiliaid tocynnau gyrraedd yn brydlon a dim mwy na 15 munud cyn amser cychwyn eu sesiwn. Caniatewch hyd at 15 munud i gerdded o faes parcio/prif adeilad yr Amgueddfa. 

Dylid gwisgo dillad addas i’r tywydd. 

Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £5 y diwrnod am barcio. 

Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu. 

Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn

Byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch archeb ar adeg archebu.

Gwybodaeth

25 Hydref 2025, 11am-4pm
Pris £7.00
Addasrwydd 3+
Archebu lle Archebwch wrth gyrraedd
Dirgelion Danddaear

Dirgelion Danddaear 

Dirgelion Danddaear

Dirgelion Danddaear 

Map o Chwedlau Gwerin Cymru

Map o Chwedlau Gwerin Cymru

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau