Digwyddiad:Caffi MINE - Grŵp Cefnogi Dementia Big Pit

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Mae Caffi MINE yn lle diogel i fwynhau paned a sgwrsio am dreftadaeth de Cymru a hanes diwydiannol Big Pit. Bydd y sesiynau'n cynnwys ymweld â safleoedd treftadaeth, defnyddio'n casgliadau i sbarduno atgofion, gweithgareddau i bawb eu mwynhau, neu jyst cyfle i alw draw i ymlacio gyda phaned. 

Cynhelir y sesiynau rhwng 10.30am-12.30pm

Bydd lluniaeth ar gael o 10.30am, gyda'r gweithgareddau rhwng 11am a  12.30pm 

Mae archebu'n hanfodol ar gyfer y sesiwn hon. Cysylltwch â ni yn: bigpit@museumwales.ac.uk am fwy o fanylion ac archebu.

Sesiynau: 

17 Chwefror  – Gwylio clasur o ffilm yn sinema Sefydliad y Gweithwyr Blaenafon;   

31 Mawrth  – Creu gardd synhwyraidd eich hun;

12 Mai – Ffotograffau a dal atgofion; 

23 Mehefin – Pythefnos y Glowyr a gwyliau glan môr.

Mae Caffi MINE yn grŵp AM DDIM ac ariennir gan gefnogaeth hael y National Grid.

Gwybodaeth

17 Chwefror, 31 Mawrth, 12 Mai a 23 Mehefin 2025, 10.30am-12.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Hanfodol
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

1 Chwefror 2025-Tachwedd 2025 
Ar agor yn ddyddiol 9.30am-5pm.
Mynediad olaf: 4pm. 
Teithiau danddaearol: 10am-3.30pm.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.

Parcio

Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. 
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Mynediad

Gwybodaeth cyffredinol a gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau