Digwyddiad:Gŵyl Caru dy Iechyd Meddwl yn Big Pit
Dewch i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, gyda ni yn Amgueddfa Cymru.
Ydy mis Ionawr yn teimlo'n llwm ac yn hir?
Dewch i weld sut all amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth wella eich iechyd meddwl. Dewch i Sain Ffagan, Big Pit neu'r Amgeddfa Wlân i roi tro ar weithgaredd all gael gwared ar straen, eich helpu i deimlo yn well neu ddelio gyda heriau dydd i ddydd.
Bydd gwahanol fathau o sesiynau i chi archebu neu alw heibio, gan gynnwys gwaith gof, barddoniaeth a gweithgareddau i'r teulu. Hefyd fe gewch chi gwrdd â sefydliadau eraill all eich helpu gyda'ch iechyd meddwl a chynnig rhagor o wybodaeth, cymorth, cefnogaeth neu gyngor i chi, a bydd cyfle i ddysgu mwy am broject Hapus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
HEFYD gostyngiad o 10% i unrhyw un sy'n prynu diod boeth a phice ar y maen o'r Siop Goffi!
Gweithgareddau galw-hebio:
- Creu llwy garu - gweithgaredd crefft i’r teulu. Pwll Chwarae 10am-3pm.
- ‘Rhowch Eich Hun yn y Llun’ gwisg hanesyddol a chyfle i dynnu lluniau. Pwll Chwarae 10am-3pm.
- Sefydliadau a grwpiau lleol all eich helpu gyda'ch iechyd meddwl a chynnig rhagor o wybodaeth, cymorth, cefnogaeth neu gyngor. Derbynfa Swyddfeydd/ Ardal Arddangosfa Dros Dro 10am-4pm.
Digwyddiadau sydd angen archebu:
Gwybodaeth
Mwy o gynnwys
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd
