Digwyddiad:Taith Tywys ar yr Wyneb

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen

Bob blwyddyn yn Big Pit, rydyn ni'n gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol danddaear er mwyn i ni allu parhau i gynnig profiad o safon ryngwladol i ymwelwyr ei fwynhau.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae ein tywyswyr wrth law i gynnig teithiau tywys unigryw ar yr wyneb yn Big Pit, gan gynnwys Pen y Pwll ac amrywiaeth o adeiladau'r lofa. 

Yn ystod y daith dywys ar yr wyneb, bydd ein tywyswyr yn esbonio mwy am y gwaith sy'n cael ei wneud danddaear, hanes Big Pit fel glofa fyw, rheoliadau contraband a rôl menywod a phlant danddaear.

Bydd y daith hefyd yn cynnwys ymweld â’r Lamprwm, Tŷ'r Injan Weindio, Efail y Gof a'r Stablau, lle bydd ein tywyswyr yn rhannu ffeithiau diddorol ac esbonio’r rôl bwysig a chwaraeodd yr adeiladau hyn wrth weithredu glofa Big Pit yn effeithlon a diogel.

Bydd Brenin Glo: Y Profiad Cloddio clyweledol ar agor, yn ogystal ag arddangosfa'r Baddondai Pen Pwll, y Siop Goffi a'n Siop newydd sbon.

Archebwch daith tywys AM DDIM YMA neu gofynnwch wrth gyrraedd.

Gwybodaeth

11–12, 17–18 a 24–25 Ionawr 2026, 10am-3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Tywysydd gyda ymwelwr o falen Penwisg Big Pit
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau