Cwrs:Lliwiau'r Ddaear – Dysgwch sut i greu paent eich hun o bigment naturiol

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen

Yn y gweithdy undydd hwn, byddwch chi'n dysgu am ddefnyddio pigment priddliw lleol i greu eich deunyddiau celf naturiol unigryw eich hun. 

Yn y bore, byddwn ni’n mynd am dro bach i ardal treftadaeth ddiwydiannol Garn Yr Erw i weld rhai pigmentau yn eu cynefin. Yn ôl yn y stiwdio, bydd Caroline yn dangos sut mae hi'n gwneud pastelau a phaent o'r pigmentau hyn.

Byddwch chi'n dysgu sut i ganfod a chreu deunyddiau celf unigryw o bigmentau yn eich milltir sgwâr, a rhai o'r ystyriaethau amgylcheddol, moesegol a diogelwch o weithio gyda phridd a phigment 'ffrwd wastraff'. 

Yn y prynhawn, bydd amser i roi cynnig ar ddeunyddiau celf sy'n defnyddio pigment o Big Pit a chreu eich delweddau eich hun wedi'u hysbrydoli gan ein taith. Byddwn ni’n defnyddio lluniau, mapiau a gwybodaeth ddaearegol leol i’n hysbrydoli. 

Mae'r gweithdy'n addas i unrhyw un sydd â diddordeb creu deunyddiau celf a does dim angen unrhyw brofiad blaenorol. Bydd angen i chi allu cerdded am 1.5 awr. Fyddwn ni ddim yn cerdded yn rhy gyflym a bydd cyfle i stopio a gorffwys. Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi eisiau gwneud yr holl gerdded sydd yn y gweithdy, mae croeso i chi aros ar y safle ac edrych o gwmpas Big Pit yn lle. 

Gwybodaeth Bwysig Ychwanegol:  
Iaith:
Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg

Oedran:

Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod dros 18 oed.

Hygyrchedd:
Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd

Gwybodaeth

10 Mai 2026, 10.00am - 4.00pm
Pris £90 | £75 Gostyngiad
Addasrwydd 18+
Lliwio naturiol

Lliwio naturiol

Lliwio naturiol

Lliwio naturiol

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau