Cwrs:Creu Lliw Naturiol – Dysgwch sut i greu inc naturiol eich hun o blanhigion a choed
Yn y gweithdy undydd hwn, byddwch chi’n dysgu sut i wneud inciau botanegol o bigmentau planhigion lleol. Bydd yr ecotherapydd a’r artist, Caroline Schofield, yn dangos sut mae'r inciau hyn yn cael eu creu o ddail, aeron a chonau sy'n tyfu'n lleol a blodau sy’n hawdd i’w tyfu yn yr ardd.
Yn y bore, byddwn ni’n cerdded o amgylch Gwarchodfa Natur Llynnoedd y Garn i weld y rhywogaethau coed fyddwn ni’n eu defnyddio. Yn ôl yn y stiwdio, byddwn yn creu'r inciau gyda'n gilydd ac yn dysgu sut mae defnyddio 'mordant' yn rhoi ystod o liwiau i ni. Byddwn ni’n trafod y cyfleoedd i chi weithio gyda phigmentau yn eich milltir sgwâr a rhai o'r ystyriaethau amgylcheddol, moesegol a diogelwch.
Yn y prynhawn, bydd cyfle i chi arbrofi gyda'r inciau fyddwn ni’n eu creu gyda'n gilydd i greu eich delweddau eich hun.
Mae'r gweithdy'n addas i ddechreuwyr llwyr ac artistiaid profiadol. Gallwch chi drosglwyddo'r sgiliau o'r gweithdy i liwio â thecstilau yn hawdd. Bydd angen i chi allu cerdded am 1.5 awr. Fyddwn ni ddim yn cerdded yn rhy gyflym a bydd cyfle i stopio a gorffwys. Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi eisiau gwneud yr holl gerdded sydd yn y gweithdy, mae croeso i chi aros ar y safle ac edrych o gwmpas Big Pit yn lle.
Gwybodaeth Bwysig Ychwanegol:
Iaith:
Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Oedran:
Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod dros 18 oed.
Hygyrchedd:
Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Lliwio naturiol
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 9 Mai 2026 | 10:00 | Gweld Tocynnau |