Canllawiau Mynediad – Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn hygyrch i’n hymwelwyr er mwyn sicrhau bod y nifer ehangaf o bobl yn gallu mwynhau ein hamgueddfa, ein casgliadau a’n harddangosfeydd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau hygyrch a’r adnoddau ar draws y safle isod.
Mae mapiau o’r Amgueddfa ar gael wrth y Dderbynfa yn y brif neuadd. Gallwch chi lawrlwytho map cyn eich ymweliad.
Mae’r Amgueddfa am ddim i bawb. Efallai bydd tâl yn cael ei godi am rai arddangosfeydd a gweithgareddau. Gallwch chi archebu tocynnau wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Datganiad hygyrchedd ein gwefan
Rydyn ni’n falch o fod yr amgueddfa gyntaf i ddod yn aelod o’r cynllun Mynediad Cenedlaethol, sef Hynt. P’un a ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad, gallwch chi gael tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion ar gyfer rhai o’n digwyddiadau a’n harddangosfeydd.
Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a reolir gan Greu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru gallwch chi wneud cais i fod yn aelod ar wefan Hynt.
Archebu tocyn gyda cherdyn Hynt
Pan fyddwch chi’n archebu eich tocyn gyda cherdyn Hynt, byddwn ni’n gofyn am eich rhif cyfeirnod Hynt unigryw. Gallwch chi archebu eich tocynnau gyda ni yn y ffyrdd canlynol:
- Wyneb yn wyneb yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – bydd ein Cynorthwywyr Amgueddfa cyfeillgar wrth y Dderbynfa yn hapus i’ch helpu chi.
- Neu ar-lein – cliciwch ar y ddolen hon i ddechrau arni. Os ydych chi wedi archebu gyda ni ar-lein gan ddefnyddio rhif cod bar Hynt dilys, bydd eich cyfrif Hynt yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif Amgueddfa Cymru er eich hwylustod yn y dyfodol. Sylwch y gallai gymryd hyd at 24 awr i’ch aelodaeth Hynt gael ei hychwanegu at eich cyfrif ar-lein.
Bydd tocynnau’n cael eu rhoi i ddeiliad y cerdyn, a bydd angen iddo gyflwyno ei gerdyn Hynt ffotograffig ym mhob arddangosfa neu ddigwyddiad y bydd yn ei fynychu. Bydd nifer y tocynnau Hynt sydd ar gael i'w harchebu ar-lein yn gyfyngedig, ac yn seiliedig ar y nifer a osodwyd gan Hynt yn ystod y broses ymgeisio. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dewis y nifer briodol o docynnau ar gyfer holl aelodau eich grŵp.
Er mwyn eich helpu chi i gynllunio eich ymweliad, cymerwch gip ar ein stori weledol.. Mae’n cynnwys ffotograffau a gwybodaeth i ddangos beth allwch chi ei ddisgwyl o’ch ymweliad â’r Amgueddfa.
Mynedfa ac allanfa’r Amgueddfa
Mae prif fynedfa ac allanfa’r Amgueddfa o flaen yr Amgueddfa, gerllaw’r maes parcio a’r ardal gollwng/casglu. Mae mynediad gwastad i fynd i mewn i’r Amgueddfa.
Parcio hygyrch
Mae parcio ar gael ar bob un o’r 3 prif lefel, sy’n rhoi mynediad i’r brif fynedfa, y daith danddaearol, y siop goffi, arddangosfa’r Baddondai Pen Pwll ac adeiladau allanol eraill. Mae angen mynd i fyny/i lawr llethr eithaf serth i weld y profiad Brenin Glo. Mae parcio am ddim i ddeiliaid bathodyn glas.
Adegau Tawel
Gall yr Amgueddfa fod yn brysur iawn ac yn swnllyd weithiau. Yr adeg dawelaf i ymweld â’r Amgueddfa yw 3pm ymlaen, fel arfer. Mae’r daith danddaearol olaf am 3pm. (Gwiriwch ein gwefan am amrywiadau tymhorol).
Goleuadau a thymheredd
Mae rhannau o’r daith danddaearol yn dywyll heb lawer o olau.
Yn ystod y daith, bydd angen i ymwelwyr gerdded 700 metr gan wisgo helmed a chario lamp sy’n pwyso 5kg. Mae’r lamp hon wedi’i chymeradwyo at y diben gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ond mae'n llawer llai golau na fydd y rhan fwyaf o bobl wedi arfer ag ef.
Mae’n gallu bod yn eithaf oer dan ddaear, felly rydyn ni’n argymell eich bod chi’n dod â dilledyn ychwanegol gyda chi.
Mae Brenin Glo: Y Profiad Cloddio yn cynnwys seiniau uchel, goleuadau sy’n fflachio a gwahanol lefelau o olau a lliwiau.
Llawr anwastad
Mae Big Pit ar ochr bryn serth ac ar nifer o wahanol lefelau, ac er bod rampiau wedi’u darparu, maen nhw’n eithaf hir ac yn gallu bod yn waith caled.
Mae’r arwyneb cerdded ar yr wyneb ac o dan ddaear yn nodweddiadol o safle diwydiannol.
Gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau call.
Gall y llawr fod yn anwastad neu’n llithrig mewn mannau, ac mae llawer o risiau. Dan ddaear, mae'r to'n isel mewn mannau, a bydd angen i chi blygu i osgoi bwrw eich pen.
Benthyg cadair olwyn
Mae croeso i ymwelwyr â phroblemau symudedd a defnyddwyr cadair olwyn ffonio 029 2057 3650 i drafod unrhyw ymholiadau , ac i roi gwybod i staff am unrhyw ofynion arbennig.
Gan nad oes modd mynd ag offer trydanol heb eu cymeradwyo dan ddaear, mae’n rhaid i ni ofyn i ddefnyddwyr cadair olwyn drydan newid i gadair olwyn gyffredinol os hoffen nhw fynd dan ddaear – naill ai eu cadair nhw eu hunain neu gallwn ni ddarparu cadair. Sylwch efallai y bydd angen i ymwelwyr gael cymorth i ddilyn y llwybrau dan ddaear.
Er bod rampiau rhwng lefelau ar yr wyneb, mae rhai o’r rampiau hyn yn eithaf hir a serth ac yn gallu bod yn waith caled. Efallai y bydd angen i ddefnyddwyr cadair olwyn gael cymorth i fynd o amgylch y safle.
Mae’n rhaid i ddefnyddwyr cadair olwyn fod yng nghwmni rhywun sy’n gallu eu cynorthwyo ar hyd y daith danddaearol.
Diogelwch ein hymwelwyr yw ein prif flaenoriaeth, felly does dim modd i fwy na 4 defnyddiwr cadair olwyn fynd dan ddaear ar unrhyw un adeg. Y rheswm am hyn yw efallai y bydd angen mynd ag ymwelwyr allan ar hyd llwybr gwahanol os nad yw’r siafft yn gweithio, e.e. o ganlyniad i fethiant pŵer. Dydy’r diangfeydd brys ddim yn addas i gadeiriau olwyn; yn y sefyllfa hon, bydd angen i’r defnyddiwr cadair olwyn gael ei gario allan.
Mae’n bosibl na fydd rhai cadeiriau olwyn cyffredinol sydd ag olwynion llai neu sydd heb ddolenni yn addas i’w defnyddio dan ddaear, ac efallai byddwn ni’n gofyn i ymwelwyr newid i un o’n cadeiriau ni.
Rydyn ni’n deall ei bod yn anodd i rai ymwelwyr newid i gadair olwyn anghyfarwydd, felly fyddwn ni ddim yn gofyn i ymwelwyr wneud hynny oni bai ei bod yn gwbl hanfodol i'w diogelwch neu i ddiogelwch eraill.
Pan fydd gan ymwelwyr broblemau symudedd, ond nad ydyn nhw’n defnyddio cadair olwyn yn rheolaidd, efallai byddwn ni’n gofyn iddyn nhw ddefnyddio cadair olwyn ar gyfer y daith danddaearol. Unwaith eto, fyddwn ni ddim yn gofyn i ymwelwyr wneud hynny oni bai ei bod yn gwbl hanfodol i'w diogelwch neu i ddiogelwch eraill.
Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, ond efallai y bydd angen cymorth. Gallwch chi ymweld â Thŷ’r Injan Weindio trwy fynedfa arall ar ochr yr adeilad.
Rydyn ni’n cynghori defnyddwyr cadair olwyn i adael Big Pit yr un ffordd ag y cyrhaeddon nhw’r Amgueddfa, drwy’r Dderbynfa. Bydd y drws hwn yn cael ei gau am 3.30pm, felly canwch y gloch am gymorth wedi’r amser hwn.
Sgwteri symudedd
Mae croeso i chi ddefnyddio sgwteri symudedd yn yr Amgueddfa.
Clirio’r safle mewn argyfwng
Mae’n annhebygol y bydd larwm yn canu yn ystod eich ymweliad. Os bydd un yn canu, peidiwch â phoeni – bydd golau coch yn fflachio i dynnu eich sylw at yr argyfwng. Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau gan aelodau staff, a fydd yn eich tywys chi i’r allanfa ddiogel agosaf.
Toiledau Hygyrch
Mae toiledau hygyrch ar gael ar dair lefel y safle. Mae’r toiledau hygyrch yn yr Ystafell Aros a’r Baddondai Pen Pwll yn neillryw. Fodd bynnag, mae’r cyfleusterau hygyrch yn y toiledau gerllaw Tŷ’r Injan Weindio yn rhai un rhyw.
Mae toiledau hygyrch ar gael ar dair lefel y safle. Mae’r toiledau hygyrch yn yr Ystafell Aros a’r Baddondai Pen Pwll yn neillryw. Fodd bynnag, mae’r cyfleusterau hygyrch yn y toiledau gerllaw Tŷ’r Injan Weindio yn rhai un rhyw.
Cyfleusterau newid cewynnau
Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael yn y Baddondai Pen Pwll.
Seddi
Does dim seddi dan ddaear.
Mae seddi ar gael wrth fynedfa’r profiad Brenin Glo, yn arddangosfa’r Baddondai Pen Pwll ac mewn ardaloedd awyr agored amrywiol.
Mae croeso i chi ddefnyddio ffyn cerdded neu stolion plygu â sedd, cyn belled â bod gorchuddion rwber ar y gwaelod.
Seiniau Cyfoethog
Amgueddfa Ddiwydiannol yw Big Pit felly mae sŵn peiriannau i’w glywed drwy’r amser.
Mae Brenin Glo: Y Profiad Cloddio yn brofiad clyweledol sy’n cynnwys sŵn uchel, ac mae arddangosfa’r Baddondai Pen Pwll yn cynnwys sain mewn rhai ardaloedd.
Cŵn gwasanaeth a chymorth
Rydyn ni’n deall y bydd angen i rai o’n hymwelwyr gael cymorth ci gwasanaeth, ac rydyn ni’n falch o groesawu cŵn gwasanaeth sydd wedi’u hyfforddi’n briodol.
Mae croeso i gŵn cymorth ar y safle ar yr amod eu bod nhw’n aros ar dennyn.
Lle y bo’n bosibl, dylai perchnogion cŵn ddod â’u llyfr adnabod perthnasol gyda nhw a dylai’r anifeiliaid wisgo’r tabard neu’r harnais priodol.
Mae croeso i gŵn tywys ar gyfer ymwelwyr ag amhariad ar y golwg a’r clyw, ond does dim modd mynd â nhw dan ddaear.
Mae dŵr yfed ar gael wrth y fynedfa, ac ar gais yn y siop goffi.
Rydyn ni’n cynnig rhaw faw i bob perchennog ci ar ei ffordd i mewn i’r Amgueddfa. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich cydweithrediad wrth gadw’r Amgueddfa’n lân ac yn ddiogel.
Dolenni Sain
Mae dolenni sain ar gyfer cymhorthion clyw wedi’u gosod yn adeilad y Dderbynfa ac Ymholiadau.
Teithiau Dementia-gyfeillgar
Mae’r Amgueddfa yn cynnig Teithiau Dementia-gyfeillgar i’w harchebu ymlaen llaw. Mae dyddiadau a rhagor o wybodaeth ar y wefan.
Bagiau synhwyraidd
Mae nifer gyfyngedig o fagiau synhwyraidd ar gael i’w benthyg am ddim o’r Dderbynfa. Mae’r rhain yn ffordd ddifyr i helpu ymwelwyr i archwilio’r Amgueddfa. Mae’r bagiau yn cynnwys:
- clustffonau canslo sŵn
- teclynnau fidget
- offer synhwyraidd eraill