Celf Brydeinig tua 1900: Teg edrych tua Ffrainc
Rhwng 1880 a’r Rhyfel Byd Cyntaf, bu artistiaid Prydain yn troi at Ffrainc am ysbrydoliaeth.
Mae’r oriel hon yn adlewyrchu’r gwahanol ddatblygiadau yng nghelf Prydain ar y pryd.
Erbyn y 1880au, roedd diflastod cynyddol yn y byd celf Prydeinig.
Roedd artistiaid yn teimlo’n rhwystredig gyda cheidwadaeth ormesol yr Academi Frenhinol, a oedd yn dueddol o ffafrio celf â phynciau traddodiadol fel hanes a llenyddiaeth. Hefyd, roedd maes llafur ysgolion celf Prydain yn ymddangos braidd yn hen ffasiwn.
Ar y llaw arall, roedd Paris, canolbwynt y byd celf avant-garde, yn cynnig dewis arall. Dechreuodd artistiaid ddefnyddio celfyddyd Ffrengig fel ysbrydoliaeth.
Fel yr Argraffiadwyr o’u blaenau, aeth yr artistiaid o Brydain ati i greu darluniau o’r byd a’i bethau cyfoes. Cawsant flas ar arbrofi gyda thechnegau, lliwiau ac arlliwiau gwahanol.
Ym 1886, sefydlwyd cymdeithas arddangos newydd, The New English Art Club, i hyrwyddo gwaith yr Argraffiadwyr Prydeinig.
Dechreuodd ysgolion celf Prydain fabwysiadu’r syniadau modern hyn. Roedd Ysgol Gelf Slade yn Llundain yn arbennig o ddylanwadol. Astudiodd nifer o artistiaid blaenllaw yma, gan gynnwys menywod, a oedd bellach yn rhydd i ddysgu ochr yn ochr â’r dynion.
Sefydlwyd llu o grwpiau artistiaid yn sgil y datblygiadau cyffrous hyn ym Mhrydain, gan fynd â’r syniadau hyn i gyfeiriadau newydd.