Goscombe John a 'Cherflunwaith Newydd'

NMW A 127, William Goscombe John, Myrddin ac Arthur, 1902

NMW A 127, William Goscombe John,

Myrddin ac Arthur

, 1902

NMW A 588, George Roilos, Syr William Goscombe John (1860-1952), 1902

NMW A 588, George Roilos, Syr William Goscombe John (1860-1952), 1902

Syr William Goscombe John

(1860-1952) oedd arweinydd y mudiad ‘Cerflunwaith Newydd’ ym Mhrydain.

Gwnaeth gyfraniad blaenllaw i’r adfywiad diwylliannol yng Nghymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd.

Nod y Mudiad Cerflunwaith Newydd oedd creu bywiogrwydd ym myd cerflunwaith trwy gyfleu’r corff dynol yn fwy naturiol.

Pan oedd Goscombe John yn 14 oed, bu’n cerfio addurniadau pensaernïol fel rhan o waith ailadeiladu Castell Caerdydd.

Ym 1881, aeth i Lundain i ddysgu crefft modelu naturiaethol gyda chlai. Roedd yn fyfyriwr arbennig, a threuliodd flwyddyn ym Mharis wedyn, lle gwelodd y cerflunydd Ffrengig

Auguste Rodin

wrth ei waith.

Er mai Llundain oedd ei gartref, roedd Cymru’n allweddol i’w yrfa. Gallwch weld llawer o’i gerfluniau cyhoeddus o amgylch Caerdydd heddiw, ac ef gynlluniodd y medalau sy’n dal i gael eu cyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol hyd heddiw.

Erbyn 1914, roedd Cerflunwaith Newydd wedi’i ddisodli gan y Mudiad Modern a oedd yn hyrwyddo’r arddulliau ‘cyntefig’ a’r grefft o naddu’r garreg ei hun.

Yn y 1920au fodd bynnag, cafodd John sawl comisiwn i greu cofebion i feirwon y Rhyfel Mawr. Roedd yn gefnogwr brwd i Amgueddfa Cymru hefyd, a chyflwynodd lawer o’i weithiau ei hun a dylanwadu ar greu’r casgliad celf cenedlaethol.

Map oriel 17

Lleoliad:

Oriel - Rotunda

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd