Y Chwiorydd Davies

Gwendoline Davies

Gwendoline Davies (1882 - 1951)

Margaret Davies

Margaret Davies (1884 - 1963)

Map oriel 18

Lleoliad:

Oriel 16a
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Roedd Gwendoline Davies (1882–1951) a Margaret Davies (1884–1963) yn wyresau i David Davies a wnaeth ei ffortiwn yn ystod y diwydiannu mawr yng Nghymru Oes Fictoria.

Ef a adeiladodd lawer o’r rheilffyrdd yn y Canolbarth, ac roedd ymhlith arloeswyr diwydiant glo’r De.

Cafodd y chwiorydd Davies fagwraeth yn nhraddodiad caeth yr Hen Gorff – Methodistiaeth Galfinaidd – ym Mhlas Dinam, Sir Drefaldwyn. Fel Cristnogion da, dysgodd y ddwy ei bod yn ddyletswydd arnynt i wneud defnydd da o’r cyfoeth mawr y byddent yn ei etifeddu.

Yn ferched ifanc, roedd ganddynt ddiddordeb byw mewn cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol, a buont yn teithio’n helaeth ar hyd a lled Ewrop. Gwasanaethodd y ddwy gyda’r Groes Goch Ffrengig yn ystod y Rhyfel Mawr.

Yn sgil hyn, roeddynt yn benderfynol o helpu’r rhai y chwalwyd eu bywydau gan y rhyfel.

Ym 1920, fe brynodd y ddwy Neuadd Gregynog gyda’r bwriad o greu cymuned gelf a chrefft yno. Daeth yn gartref i Wasg Gregynog, a ffynnodd fel canolfan gerdd a chynadledda.

Aeth y ddwy chwaer ati i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, economaidd, addysgol a diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt. Cafodd eu delfrydiaeth a’u haelioni ddylanwad mawr ar fywyd diwylliannol a deallusol Cymru ddoe a heddiw.

Siop Amgueddfa Cymru