Celf ym Mhrydain wedi 1930
Mabwysiadodd artistiaid Prydain amrywiaeth eang o dechnegau celfyddydol yng nghanol yr ugeinfed ganrif, a gwelwyd newidiadau radical mewn dim o dro.
Dan ddylanwad celf fodern Ewropeaidd, yn y 1930au dechreuodd celf Prydain droi at ‘haniaethu pur’. Arbrofai artistiaid â ffurfiau llinellol a geometrig heb geisio cynrychioli gwrthrychau o’r byd naturiol.
Ar droad yr Ail Ryfel Bryd datblygodd arddull newydd. Yn llawn awydd o’r newydd i gyfleu natur a gwerthoedd traddodiadol yn fwy triw, fe’i gelwid weithiau yn neo-ramantiaeth. Roedd nifer o artistiaid Cymru yn dwyn eu hysbrydoliaeth o’r tirlun, a dyma nhw’n troi at y mudiad newydd hwn.
Yn nechrau’r 1940au daeth St Ives yn ganolfan i gelf haniaethol. Yn niwedd y 1950au datblygodd y foderniaeth yma’n arddull mwy corfforol, ystumiol a mynegiadol ym Mhrydain. Canlyniad hyn oedd dychwelyd at destunau traddodiadol y ffigwr a’r tirlun, ond heb eu dehongli’n gynrychioliadol.