Goscombe John a ‘Cherflunwaith Newydd’
Syr William Goscombe John (1860-1952) oedd arweinydd y mudiad ‘Cerflunwaith Newydd’ ym Mhrydain.
Gwnaeth gyfraniad blaenllaw i’r adfywiad diwylliannol yng Nghymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd.
Nod y Mudiad Cerflunwaith Newydd oedd creu bywiogrwydd ym myd cerflunwaith trwy gyfleu’r corff dynol yn fwy naturiol.
Pan oedd Goscombe John yn 14 oed, bu’n cerfio addurniadau pensaernïol fel rhan o waith ailadeiladu Castell Caerdydd.
Ym 1881, aeth i Lundain i ddysgu crefft modelu naturiaethol gyda chlai. Roedd yn fyfyriwr arbennig, a threuliodd flwyddyn ym Mharis wedyn, lle gwelodd y cerflunydd Ffrengig Auguste Rodin wrth ei waith.
Er mai Llundain oedd ei gartref, roedd Cymru’n allweddol i’w yrfa. Gallwch weld llawer o’i gerfluniau cyhoeddus o amgylch Caerdydd heddiw, ac ef gynlluniodd y medalau sy’n dal i gael eu cyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol hyd heddiw.
Erbyn 1914, roedd Cerflunwaith Newydd wedi’i ddisodli gan y Mudiad Modern a oedd yn hyrwyddo’r arddulliau ‘cyntefig’ a’r grefft o naddu’r garreg ei hun.
Yn y 1920au fodd bynnag, cafodd John sawl comisiwn i greu cofebion i feirwon y Rhyfel Mawr. Roedd yn gefnogwr brwd i Amgueddfa Cymru hefyd, a chyflwynodd lawer o’i weithiau ei hun a dylanwadu ar greu’r casgliad celf cenedlaethol.