Allforio porslen Tsieineaidd yn y ddeunawfed ganrif
Roedd yna fynd mawr ar gasglu porslen Tsieineaidd yn ystod y ddeunawfed ganrif.
Cafodd hynny ddylanwad aruthrol ar yr arfer o gynhyrchu eitemau addurnol ym Mhrydain a gweddill Ewrop. Masnachwyr o Bortiwgal ddechreuodd allforio porslen Tsieineaidd am y tro cyntaf i Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Am y 300 mlynedd nesaf, bu crefftwyr Tsieineaidd yn cyflenwi peth wmbredd o borslen i Ewrop. Cafodd llawer o wrthrychau fel bowlenni siwgr a jygiau llaeth eu creu’n unswydd ar gyfer y farchnad dramor.
Yn y ddeunawfed ganrif, roedd cwmni Prydeinig, sef yr East India Company yn rheoli’r fasnach porslen Tsieineaidd i Brydain. Cafodd ei gludo ar longau ar y cyd â nwyddau moethus eraill fel te, sidan a dodrefn.
Roedd gan weithwyr y cwmni ganiatâd i fasnachu’n breifat. Yn aml, byddent yn comisiynu darnau wedi’u haddurno â phynciau Ewropeaidd neu lestri wedi’u haddurno ag arfbeisiau. Gwelir enghreifftiau o borslen a gynhyrchwyd ar gyfer teuluoedd Cymreig yn yr oriel yma.
Dechreuodd ffatrïoedd ym Mhrydain ac Ewrop gynhyrchu eu porslen eu hunain maes o law. Roedd yr addurniadau wedi’u copïo neu eu haddasu o borslen gwreiddiol Tsieineaidd yn aml. Roedd Tsieina’n cynhyrchu llestri tebyg i ffatrïoedd Ewropeaidd poblogaidd hefyd, fel Meissen a Worcester.