Artistiaid Cymreig y Ddeunawfed Ganrif
JONES, Thomas (1742–1803)
Y Bardd
1774
olew ar gynfas
prynwyd, 1965
NMW A 85
MENGS, Anton Raphael (1728–1779)
Richard Wilson (1713–1782)
tua 1752
olew ar gynfas
prynwyd gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd, 1947
NMW A 113
Ychydig oedd gan Gymru i’w gynnig i gyw-artistiaid ifanc yn y ddeunawfed ganrif. Doedd dim ysgolion celf, dim mannau arddangos ac ychydig iawn o noddwyr.
Yn gyferbyniol, roedd Llundain yn llawn cyfleoedd. Denodd y ddinas nifer o Gymry addysgiedig oedd yn benderfynol o ddilyn gyrfa fel arlunwyr.
Mae’r oriel yma’n cyflwyno gwaith grŵp o artistiaid Cymreig o’r ddeunawfed ganrif a hyfforddwyd yn Llundain a’r Eidal ac a weithiodd yno, ond heb ynysu eu hunain yn llwyr oddi wrth eu mamwlad. Roeddynt yn ymhel â bywyd diwylliannol Cymru naill ai yn eu bywyd personol neu broffesiynol, yn aml â chefnogaeth gwladgarol ambell i noddwr Cymreig.
Roedd hyn yn amser o gyffro cynnyddol ynglyn â Chymru, a sbardunwyd gan y darganfyddiad bod y Cymry’n ddisgynyddion o’r hen Geltiaid.
Ymhyfrydodd deallusion Prydain yn iaith, llenyddiaeth a gorffennol derwyddol Cymru, a gwnaed ymgais i feithrin hunaniaeth.
Adfywiwyd yr Eisteddfod, a sefydlwyd grwpiau fel Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion i warchod y syniad o arwahanrwydd diwylliannol.
Yn ysbryd yr Adfywiad Celtaidd hwn rhoddwyd mwy o bwyslais ar fynegi hunaniaeth genedlaethol drwy gerddoriaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol. Daeth rhai o’r delweddau a grëwyd yn y cyfnod hwn yn eiconau cenedlaetholgar mewn cyfnodau diweddarach, fel Y Bardd gan Thomas Jones.