Hunaniaeth a Dylanwad: Celf yng Nghymru (1550–1700)

William Herbert, Iarll 1af Penfro (1507-1570), Steven Van Herwijk

VAN HERWIJK, Steven (c.1530–c.1565)
William Herbert, Iarll 1af Penfro (1507–1570)
c.1560–1361
olew ar banel
prynwyd, 2000
NMW A 16468

Gwlad fechan dlawd oedd Cymru ym 1500. Tua 200,000 oedd poblogaeth y wlad, sy’n llai na phoblogaeth Caerdydd heddiw.

Roedd hyd yn oed trefi bychain yn brin, a phawb bron yn byw yng nghefn gwlad, y rhan fwyaf ohonynt mewn tlodi mawr. Efallai nad dyma’r lle y byddech chi’n disgwyl dod o hyd i eitemau drud fel peintiadau ac arian, ond roedd ambell un.

Daeth newid aruthrol i gymdeithas, gwleidyddiaeth a chrefydd yng Nghymru yn oes y Tuduriaid. Rhwng 1536 a 1543, daeth system lywodraethu newydd i’r wlad yn sgil y cyfreithiau a alwyd yn ddiweddarach yn Ddeddfau Uno.

Rhannwyd yr holl wlad yn siroedd dan weinyddiaeth Ynadon Heddwch Lleol, ac roedd gan bob sir Aelod Seneddol yn San Steffan. Elwodd rhai Cymry’n fawr ar hyn, a daethant yn ffigurau dylanwadol y tu hwnt i ffiniau’r wlad.

Roeddent yn mynychu’r Llys yn Llundain, ac yn datblygu gyrfa yn yr Eglwys neu’r gyfraith. Adlewyrchir hyn yn yr eitemau celf a’r pethau moethus oedd ganddynt.

Fel y welir yn yr arddangosfa, roedd eu chwaeth yn gydbwysedd o ffasiynau’r cyfandir, pryder dros eu hunaniaeth Gymreig a chefnogaeth dros draddodiadau lleol.

Map oriel 10

Lleoliad:

Oriel 10
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd