Celf ym Mhrydain y Ddeunawfed Ganrif
Roedd Prydain ar ei hôl hi ym myd celf 1700. Ganrif yn ddiweddarach, roedd celf Brydeinig mor arloesol ag unrhyw wlad arall yn Ewrop.
Daeth dwy genhedlaeth o arlunwyr yn fawr eu clod, gan gynnwys Hogarth, Reynolds, Gainsborough a’r Cymro Richard Wilson.
Dangosodd sefydlu Academi Brenhinol y Celfyddydau ym 1769 bod artistiaid yn dechrau ennill eu plwyf fel crefftwyr proffesiynol, â dylanwad deallusol a sgiliau creadigol. Yn ystod canrif o wrthdaro â Ffrainc, dechreuodd y syniad o Ysgol Brydeinig ennill tir.
Roedd disgwyl i fonedd werthfawrogi’r celfyddydau. Teithiodd nifer fawr o uchelwyr i’r Eidal a chael blas ar waith yr Hen Feistri a hynafiaeth glasurol.
Roedd artistiaid Prydeinig yn cwyno am yr obsesiwn â chelf dramor, ond aethant ati’n llwyddiannus i ddatblygu eu harbenigeddau eu hunain, fel y ‘darn ymddiddan’ neu’r portread ‘mawreddog’.
Datblygodd Prydain hefyd farchnad gelf fodern. Roedd pobl yn ysgrifennu am gelf. Arddangoswyd lluniau mewn arddangosfeydd ac fe ddaethant yn bethau gwerthfawr.
Er i’r byd celf barhau i droi o gylch Llundain, torrodd rhai artistiaid gwys mewn canolfannau llai yn Lloegr yn ogystal â Dulyn a Chaeredin. Erbyn y 1790au roedd ganddynt gwsmeriaid yn rhai o drefi mwy Cymru hefyd.