Celf ym Mhrydain Oes Victoria

MILLAIS, Syr John Everett (1829–1896) 
Jephthah 
1867 
olew ar gynfas 
cymrynrodd gan Isadore Stone, 1964 
NMW A 180 
 

TISSOT, James (1836–1902)  
Newyddion Drwg (Y Gwahanu)  
1872  
olew ar gynfas  
cymrynrodd gan William Menelaus, 1882  
NMW A 184

Mae pensaernïaeth a dylunio Oes Victoria yn dal i ddylanwadu cymaint ar ein byd ni heddiw, yn enwedig yng Nghaerdydd, a ddatblygodd o fod yn dref farchnad i ddinas o bwys rhyngwladol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Castell Caerdydd yw un o adeiladau mwyaf ysblennydd yr adfywiad gothig ym Mhrydain. Trawsnewidiodd William Burges y castell ym 1866.

Prydain oedd un o wledydd cyfoethocaf y byd yn oes y Frenhines Victoria (1819-1901). Roedd mwy a mwy o bobl yn prynu celf, a’r arlunwyr yn mwynhau cyfoeth a bri cymdeithasol oherwydd hynny.

Roedd y dosbarth canol cyfoethog yn hoff iawn o dirluniau rhamantaidd, anifeiliaid pert a golygfeydd o fyd llên. Roedd arlunwyr hefyd yn defnyddio’u gwaith i roi sylwadau ar y gymdeithas ar ffurf peintiadau o fywyd modern.

Sefydlwyd y Frawdoliaeth Gyn Raffaelaidd ym 1848, gan roi pwrpas moesol newydd a safbwyntiau ffres ar y byd a’i bethau.

Erbyn diwedd y ganrif, roedd y pwyslais ar brydferthwch er ei fwyn ei hun, ac roedd arlunwyr yn mabwysiadu syniadau a thechnegau newydd o Ffrainc.

Datblygodd Cymru fel gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd diolch i’r diwydiant haearn a glo. Hyn hefyd oedd wrth wraidd nawdd preifat i’r celfyddydau a sefydlu’r orielau cyhoeddus cyntaf.

Er bod y rhan fwyaf o’r arlunwyr Cymreig yn gweithio y tu allan i’w mamwlad o hyd, dechreuodd rhai ymdrin â phynciau fel hunaniaeth Gymreig gan gyfrannu at y twf mewn ymwybyddiaeth genedlaethol.