Pobl, Pwysigion, Pŵer: Wynebau Cymru (1800–2000)

CHAPMAN, J. (fl.1826 – )  
William Williams, ‘Will Penmorfa’ (1759–1828)  
1826  
olew ar gynfas  
rhodd gan Y Farwnes De Rutzen, 1946  
NMW A 532

Mae’r arddangosfa gyfnewidiol hon yn cynnwys portreadau o bobl a gyfrannodd at fywyd diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd Cymru yn ystod y 200 mlynedd diwethaf.

Mewn rhannau eraill o’r Orielau, ceir portreadau cynharach o fonedd a thirfeddianwyr a chlerigwyr yn bennaf, sy’n adlewyrchu’r gymdeithas gyn-ddiwydiannol.

Yma, mae diwydianwyr, gwleidyddion, gwyddonwyr, cerddorion, arlunwyr a llenorion yn ymuno â nhw. O 1800 ymlaen, ceir mwy a mwy o luniau o’r Cymry cyffredin. Erbyn hyn, roedd y dosbarth canol hefyd yn gallu fforddio cael eu portreadau eu hunain ar gyfer y cenhedloedd i ddod.

Roedd hi’n oes o newid mawr. Erbyn 1850, roedd mwy o bobl yn gweithio ym myd diwydiant nag ar y tir yng Nghymru. Newidiodd strwythurau grym traddodiadol yn sgil cynrychiolaeth ddemocrataidd, a gwelwyd adfywiad mawr mewn ymwybyddiaeth genedlaethol erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er gwaethaf rhyfeloedd a dirywiad economaidd, ffynnodd y bywyd diwylliannol yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Yn y gorffennol, roedd portreadau’n gofnod pwysig o statws yn ogystal â golwg. O 1800 ymlaen, dechreuodd arlunwyr ganolbwyntio mwy ar adlewyrchu cymeriad. Cafodd llawer mwy o bortreadau eu paentio gan arlunwyr heb fawr ddim hyfforddiant.

Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn sgil datblygiad ffotograffiaeth, gwelwyd newid mawr yn natur am fod modd sicrhau tebygrwydd da i’r gwreiddiol yn gyflym a rhad, a daeth elfen fynegiannol y paentiad portreadol yn fwyfwy pwysig.