Celf yn yr Iseldiroedd (1500–1700)
Cyfnod hynod oedd hwn, pan ddaeth archbŵer newydd i’r amlwg – Gweriniaeth yr Iseldiroedd – gan groesawu Oes Aur Celf yr Iseldiroedd.
Trawsnewidiodd rhyfel, gwleidyddiaeth a chrefydd bob agwedd ar gymdeithas yr Iseldiroedd yn yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg.
Rhanbarth o daleithiau dan reolaeth Sbaen Gatholig oedd yr Iseldiroedd ym 1500. Wedi brwydr hir a chaled, enillodd y wlad ei hannibyniaeth ym 1648 pan sefydlwyd Gweriniaeth yr Iseldiroedd.
Roedd taleithiau’r gogleddyn ymfalchïo yn euhannibyniaeth newydd, Wrth i economi’r wlad ffynnu, byddai’r bobl gyfoethogionyn dathlu eu byd da yn afradlon drwy addurno’ucartrefi ag amrywiaeth obortreadau, darluniau bywyd llonydd, a tirluniau agolygfeydd o fywyd bob dydd.
Arweiniodd hyn at alw mawr am beintiadau, a sefydlwyd ysgolion i arlunwyr talentog yn y prif drefi a’r dinasoedd.
Yn wahanol i ogledd yr Iseldiroedd, arhosodd Fflandrys a thaleithiau eraill y de dan lywodraeth Sbaen. Byddai arlunwyr Ffleminaidd yn aml yn gweithio i’r Eglwys Gatholig.
Er bod nifer o artistiaid wedi ffoi oddi yno rhag y rhyfeloedd crefyddol, gwelodd yr ail ganrif ar bymtheg adfywiad ym myd y celfyddydau yn Fflandrys.
O dan ddylanwad Peter Paul Rubens, ffynnodd arddull afieithus a elwir yn Faróc Ffleminaidd, a daeth Antwerp yn brif ganolfan i artistiaid.