Arddangosfa: Ailfframio Picton
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Pwy oedd yr Is-Gadfridog Syr Thomas Picton? Arwr rhyfel. Gormeswr creulon. Symptom o'r Ymerodraeth Brydeinig.
Gall yr holl bethau hyn fod yn gywir ar unwaith a dyma sy’n cael ei archwilio mewn arddangosfa a gynlluniwyd dros flynyddoedd.
Mae'r arddangosfa wedi ei rannu yn 3 rhan:
- Yn yr ystafell gyntaf, bydd ymwelwyr dod wyneb yn wyneb ag etifeddiaeth Picton
- Mae'r ail ystafell yn ystafell o iacháu. Yn cynnwys comisiwn newydd gan Gesiye, artist aml-ddisgyblaeth o Trinidad a Tobago. Fel rhan o’i gwaith comisiwn – sef cyfres o luniau a ffilm - gwahoddodd Gesiye Trinidadiaid i gymryd rhan mewn cynnig iachâd sy'n cynnwys cyfres o datŵs a sgyrsiau o gwmpas eu cysylltiad â'r tir.
- Mae'r drydedd ystafell yn cynnwys comisiwn gan Laku Neg. Mae eu gosodiad yn archwilio ail-gyflwyniad o Luisa, Thisbe a Present, ddioddefwyr o gyfundrefn greulon Picton yn Trinidad.
Mae Ailfframio Picton yn benllanw ar dros 2 flynedd o allgymorth cymunedol rhwng Amgueddfa Cymru a Phanel Cynghori Is-Sahara (SSAP).
Mae prosiectau dan arweiniad ieuenctid ar draws yr amgueddfa yn rhan o fenter Dwylo ar Dreftadaeth, a wnaed yn bosibl gan Grant Kick the Dust o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.