Digwyddiad: Nadolig y Noddwyr
Ein dathliad Nadolig blynyddol gan gynnwys derbyniad diodydd arbennig, sgyrsiau gan rai o’n curaduron a cherddoriaeth yr ŵyl.
Mae ein Noddwyr yn mwynhau perthynas ddyfnach ag Amgueddfa Cymru tra hefyd yn cefnogi'n gwaith, gan ein helpu i ysbrydoli pawb trwy stori Cymru.
Mae'r manteision hefyd yn cynnwys:
- Gwahoddiad i ddangosiadau preifat o arddangosfeydd mawr.
- Cyfle i gwrdd ag arbenigwyr a staff curadurol mewn digwyddiadau i Noddwyr, a theithiau 'tu ôl i'r llenni'.
- Digwyddiad Nadoligaidd blynyddol ar gyfer Noddwyr a gwesteion, un o nosweithiau mwyaf poblogaidd Calendr Digwyddiadau’r Noddwyr
- Y newyddion diweddaraf gan Amgueddfa Cymru, gan gynnwys dau gop'r flwyddyn o gylchlythyr y noddwyr, Nawdd.
- Gostyngiad o 10% yn siopau, caffis a bwytai Amgueddfa Cymru
Eisiau gwybod mwy am ddod yn Noddwr? Cysylltwch â datblygu@amgueddfacymru.ac.uk neu ewch i Ymuno â'n Cynllun Noddwyr | Amgueddfa Cymru.