Digwyddiadau

Arddangosfa: Streic! 84-85 Strike!

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
26 Hydref 2024 – 27 Ebrill 2025 , 10:15am - 4:45pm
Dod yn fuan
Pris Cynnig Cynnar: £7 Oedolion | £5 Consesiynau
Addasrwydd Pawb

Gwnewch y mwyaf o’n tocynnau cynnig cynnar – prynwch docyn cyn 5 Medi am docyn rhatach.

Archebu tocynnau 

Yr Arddangosfa

1984: Y flwyddyn aeth Margaret Thatcher benben â’r cymunedau glofaol.

Arweiniodd haf llawn gobaith a gwrthsefyll angerddol at aeaf o drais, caledi, colli bywoliaeth - a bywydau - ledled rhai o gymunedau mwyaf gwydn Cymru. 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae effaith Streic y Glowyr yn parhau. O luniau a phlacardiau protest i straeon personol o frawdoliaeth yn eu brwydr yn erbyn byd oedd yn prysur newid, mae’r arddangosfa bwysig hon yn taflu goleuni ar Streic y Glowyr a’i effaith hynod ar ein gwlad.

Dewch i weld angerdd a thensiwn y brotest.

Yn rhad ac am ddim i Aelodau! 

Ymunwch heddiw a mwynhewch gynigion arbennig a buddion gan gynnwys mynediad am ddim i arddangosfeydd sydd rhaid talu amdanynt a gwybodaeth ymlaen llaw am ddigwyddiadau.

Diolch

Mae rhaglen arddangosfeydd Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery.   

Digwyddiadau