Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Creu ‘Suncatcher’ Nadoligaidd
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i greu ‘Suncatcher’ Nadoligaidd wedi’i ysbrydoli gan rai o’r gwrthrychau gwych yn y casgliadau, fel gwaith Gillian Ayres.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
- Cyfle i grwydro a mwynhau un o'r orielau neu'r casgliadau
- Cyfle i fwyhau gweithgaredd crefft ysgafn
- Diod gynnes a sgwrs
Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le Mae'r sesiwn yn para tua 2 awr, gydag egwyl a lluniaeth yng nghaffi'r Amgueddfa.
Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae'r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde’. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418
Gwybodaeth
Mwy o gynnwys
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

