Digwyddiadau:Gwen John: Hardd a Hynod
Y Pererin gan Gwen John. Credyd llun – Canolfan Gelf Brydeinig Yale, Casgliad Paul Mellon
Roedd Gwen John yn un o artistiaid mwyaf hynod Cymru.
Roedd Gwen John yn gweld y byd yn wahanol — yn dawel, yn sylwgar, a chyda dyfnder rhyfeddol. Y gwahaniaeth hwnnw a luniodd bopeth: ei thestunau, ei dull, ei lliwiau, ei geiriau, ei gwaith.
Mae Gwen John: Hardd a Hynod yn arddangosfa unwaith mewn cenhedlaeth, sy'n casglu ynghyd weithiau sydd prin yn cael eu gweld o Amgueddfa Cymru a chasgliadau ledled y byd i ddathlu 150 mlynedd ers geni’r artist o Gymru.
Mae'n adrodd stori Gwen fel na chafodd ei hadrodd erioed o'r blaen, gan ddatgelu ffyrdd newydd o weld ei bywyd a'i chelf, a dathlu artist oedd â gweledigaeth sy’n dal yn teimlo'n drawiadol o fodern heddiw.
Dyma wahoddiad i weld y byd trwy lygaid Gwen — i arafu, edrych yn agosach a darganfod y rhyfeddod yn ei gwaith. Cyfle rhy dda i’w golli — i newydd-ddyfodiaid ac edmygwyr ffyddlon.
Trefnwyd yr arddangosfa hon gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth ag Orielau Cenedlaethol yr Alban, National Museum of Women in the Arts, a Yale Center for British Art.
Cyfrannwch i wneud gwahaniaeth
Wrth brynu tocyn gallwch chi hefyd wneud rhodd bychan dewisol. Gall rhodd bach wneud gwahaniaeth mawr, a'n helpu i ofalu am y casgliad cenedlaethol, creu arddangosfeydd sy'n ysbrydoli a pharhau i adrodd straeon pwysig.
Bydd rhodd bychan o 10% o bris y tocyn yn golygu y gallwn ni hawlio Cymorth Rhodd ar bris llawn y tocyn. Fel elusen, mae eich cefnogaeth chi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Diolch.
Am ddim i aelodau!
Ymunwch heddiw a mwynhewch gynigion arbennig a buddion, gan gynnwys mynediad am ddim i'n harddangosfeydd â thâl i'w ddefnyddio pa bynnag bryd.
Prif noddwr
Cefnogir gan
Hoffem hefyd ddiolch i'r unigolion sydd wedi cefnogi’r arddangosfa hon.