Digwyddiad:Plannu Bylbiau’r Gwanwyn
I ddathlu 20 mlynedd o'n project ymchwil Bylbiau Gwanwyn I Ysgolion, rydym yn gwahodd teuluoedd i blannu bylbiau’r gwanwyn a mwynhau gweithgareddau crefft yn ystod yr hanner tymor.
Galwch draw rhwng 10am a 2pm i blannu bylbiau Cennin Pedr a Saffrwm a mynd â nhw adre gyda chi. Fe gewch chi enwi a labelu eich bylbiau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau crefft llawn hwyl.
Does dim rhaid cadw lle ymlaen llaw.
Perffaith ar gyfer plant rhwng 8 ac 11 oed, ond mae’n agored i bawb.
Rhaid i unrhyw un dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Gwybodaeth
Mwy o gynnwys
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd
