Digwyddiad: Prynhawn y Plant
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
Bob prynhawn dydd Gwener, bydd blychau arbennig yn llawn teganau, gemau a llyfrau wedi’u cuddio mewn gwahanol orielau. Maent wedi cael eu creu er mwyn helpu rhieni a phlant 1-4 oed fwynhau’r Amgueddfa trwy chwarae.
Bydd gweithgareddau chwarae yng Nghanolfan Ddarganfod hefyd, a gallwch ymuno â ni am stori a chân am 3pm mewn rhan wahanol o’r amgueddfa bob wythnos:
4 Tachwedd -ymweld â’r amgueddfa
11 Tachwedd - ditectifs deinosor
18 Tachwedd - anifeiliaid Quentin Blake
25 Tachwedd - darganfod Artes Mundi
2 Rhagfyr - Cestyll, Tywysogion a Thywysogesau
9 Rhafyr - Bywyd gwyllt y Nadolig
Datblygwyd ar y cyd â Chwarae ac Iaith Caerdydd.