Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Football
Pêl droed Carl Minett o Aberfan. Roedd Carl yn saith oed pan laddwyd yn ei ystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Lladdwyd Marylyn, ei chwaer deg oed hefyd. Roedd teulu Carl yn ei gofio’n treulio oriau yn chwarae gyda’i bêl droed. Wedi’r drychineb, cafodd y bêl ei gadw’n ddiogel gan dad Carl (Cliff Minett) yng nghartref y teulu a gafodd ei enwi’n ‘Carlyn’ er cof am Carl a Marylyn.