Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Exercise book
Llyfr ysgol Marylyn Minett o Aberfan o 8 Medi 1965 hyd 4 Gorffennaf 1966. Roedd Marylyn yn ddeg mlwydd oed pan lladdwyd hi yn ei hystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Lladdwyd Carl, ei brawd bach saith oed yn y drychineb hefyd. Mae'r llyfr ysgrifennu, a ddarparwyd gan Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, yn cynnwys enw Marylyn Minett ar y clawr yn ei llawysgrifen a'r dosbarth '3W'. Defnyddiodd Marylyn y llyfr i ysgrifennu newyddion y dydd, o'r lleol i'r rhyngwladol.