Sut mae'r broses gyfreithiol o adrodd ar Drysor yn gweithio
Sut fydd yr Achosion Trysor 'pwysigrwydd eithriadol' newydd yn cael eu hadrodd (yng Nghymru)?
- Mae'r diffiniad pwysigrwydd eithriadol yn ychwanegol i'r diffiniadau presennol o Drysor, felly rhaid ystyried y diffiniadau hyn cyn ystyried y pwysigrwydd eithriadol posib.
- Os ydych chi'n credu bod eich canfyddiad o bwysigrwydd eithriadol, adroddwch at eich Swyddog Adrodd Canfyddiadau PAS Cymru lleol, neu staff y Gofrestrfa Drysor yn Amgueddfa Cymru (manylion isod).
- Os oes peron arall (e.e. trefnwr rali, aelod clwb, Swyddog Cofnodi Canfyddiadau, staff y Gofrestrfa Drysor, curadur amgueddfa leol neu genedlaethol neu werthwr creiriau) yn awgrymu bod eich canfyddiad yn Drysor o bwysigrwydd eithriadol, dilynwch y cyngor ac adrodd ar y canfyddiad (gweler uchod).
- Bydd Swyddog Canfyddiadau PAS Cymru yn gweithio gyda'r curadur perthnasol yn Amgueddfa Cymru, yn caffael barn yr amgueddfa achrededig leol fyddai â diddordeb caffael y gwrthrych, ac yn casglu unrhyw gyngor ychwanegol gan arbenigwyr allanol. Byddan nhw'n paratoi adroddiad manwl ar gyfer y Crwner, gan wneud yr achos gorau posib dros bwysigrwydd eithriadol.
- Y Crwner fydd yn penderfynu os yw canfyddiad yn bodloni'r diffiniad pwysigrwydd digonol, ac yn pennu a yw'n Drysor yn gyfreithiol neu beidio.
- Yr amcangyfrif yw taw dim ond rhyw 1-8 canfyddiad ychwanegol y flwyddyn fydd yn bodloni'r diffiniad pwysigrwydd eithriadol newydd yng Nghymru. Bydd y rhan fwyaf o wrthrychau sy'n cael eu canfod yn parhau i beidio â chael ei datgan yn Drysor yn gyfreithiol. Bydd y diffiniad newydd yn cael ei ddefnyddio yn gynnil a gofalus fel taw dim ond canfyddiadau o'r pwys mwyaf fydd yn cael eu hystyried.
- Bydd canfyddiad ond yn cael ei ystyried fel Achos Trysor o bwysigrwydd eithriadol lle bo amgueddfa achrededig leol neu genedlaethol yn dangos diddordeb ei gaffael er lles y cyhoedd.
- Os oes gennych chi bryderon am y diffiniad Trysor newydd a ychwanegwyd yn 2023, cysylltwch â thîm y Gofrestrfa Drysor yn Amgueddfa Cymru. Byddan nhw'n ddigon hapus i wrando a thrafod eich pryderon er mwyn deall, ymateb a thawelu meddyliau canfyddwyr, tirfeddianwyr ac amgueddfeydd, ym mhob achos posib.
Y Cod Ymarfer Trysor (2023) newydd
Mae'r ddogfen Cod Ymarfer Trysor ar ei newydd wedd ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Llywodraeth y DU.
Gwybodaeth ychwanegol am y broses adrodd ar Drysor, yn esbonio sut mae'r broses yn gweithio yng Nghymru.