Archwilio gwely'r môr yn ein hardal leol

Archwilio gwely'r môr yn ein hardal leol

Astudiaeth o Gynefin Morol Môr Hafren Allanol

Prosiect Cronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau (CGAA)

Mwydyn gwrychog, a geir yn gyffredin ym M

Cranc meddal (Pagurus prideaux) gyda'r Anemoni Mantellog (Adamsia carciniopados) cydfwytaol.

Delwedd o wely'r môr o Fôr Hafren yn dangos rhai anifeiliaid (Llaw Farw Alcyonium digitatum, spwng, corgimwch, cranc bwytadwy Cancer pagurus, cwrel a bryosoad Flustra foliacea

Y photosled (CPC Bangor) a ddefnyddir i wneud fideo a thynnu darluniau o wely'r môr

Mae'r Adran Bioamrywiaeth Morol wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect graddfa fawr i edrych ar anifeiliaid sy'n byw ar ac yng ngwely'r môr yn

Rhan Allanol Môr Hafren

. Trefnwyd y prosiect mewn partneriaeth ag Arolwg Daearegol Prydain (BGS).

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau i ddarganfod cyfrinachau gwely'r môr. Er mwyn astudio anifeiliaid defnyddir

crafanc

. Mae'r ddyfais dechnegol hon yn cymryd sampl o wely'r môr ac yn ein galluogi i gyfrif ac adnabod yr anifeiliaid a gasglwyd yn y sampl ar fwrdd y llong. Bydd daearegwyr yn defnyddio mathau amrywiol o offer, gan gynnwys

sonar

i fapio gwely'r môr islaw. Rydym hefyd wedi gwneud ffilmiau a thynnu lluniau sy'n dangos gwely'r môr, gan ddangos yr anifeiliaid mwy sy'n byw ar wely'r môr ac olion a thyllau a wnaed gan greaduriaid eraill.

Mae daearegwyr Arolwg Daearegol Prydain wedi cynhyrchu mapiau sy'n rhoi darlun manylach nag a fu'n bosibl erioed o'r blaen o natur ffisegol gwely'r môr. Rydym wedi canfod ardaloedd tywodlyd, mwdlyd a graeanog, yn ogystal â

brigiadau creigiog

,

tonnau tywod

, a hyd yn oed ambell longddrylliad. Mae'r rhan fwyaf o ardal ogleddol Môr Hafren Allanol wedi'i gorchuddio â chaeau mawr o donnau tywod hyd at 19m o uchder. Ceir cynefin mwy graeanog yn y rhan ddeheuol gyda thonnau tywod yma ac acw.

Mae ardal yr astudiaeth yn amgylchedd cymhleth gydag amrywiaeth o gynefinoedd ag ynddynt gannoedd o rywogaethau gwahanol o anifeiliaid - gan gynnwys mwydod, cregyn, crancod, sêr môr a llawer mwy. Mae'r wybodaeth fywydegol a daearegol wedi cael ei chyfuno i greu darlun cynhwysfawr o gynefinoedd yr ardal. Yn ôl y darlun, mae'r rhan fwyaf o anifeiliaid a bïotopau'r ardal yn cyfateb â'r mathau o wely môr a natur ffisegol gwely'r môr. Un o'r darganfyddiadau diddorol oedd cragen ddeuglawr fechan (‘Mysella' obliquata). Cafodd y gragen ei disgrifio am y tro cyntaf yng Ngogledd yr Iwerddon, ond nid yw wedi cael ei chofnodi yn nyfroedd y DU ers mwy na 100 mlynedd.

Defnyddir Môr Hafren ar gyfer amryw o weithgareddau gwahanol, sy'n amrywio rhwng hamddena a threillio tywod. Mae'n hanfodol felly bod gennym wybodaeth drylwyr am wely'r môr i sicrhau cynaliadwyedd a chadwraeth ein hadnoddau naturiol.

Mae'r astudiaeth wedi darparu

'gwybodaeth sylfaenol'

gan gynnwys manylion y cynefinoedd, y bïotopau a'r rhywogaethau sy'n bresennol ym Môr Hafren Allanol. Mae'r wybodaeth yma'n cael ei dosbarthu i bawb, gan amrywio rhwng plant ysgol a rhai sy'n gweithio ym maes gwyddor y môr, cadwraeth, cynllunio ac sy'n defnyddio adnoddau naturiol. Bydd hyn oll yn cyfrannu tuag at sicrhau y gwneir defnydd cynaliadwy o'r adnoddau hynny.

O'n rhan ni, mae'r prosiect yma wedi bod yn un unigryw gan ein bod wedi cynnwys elfen gwaith maes o'r cychwyn cyntaf. Rydym wedi datblygu rhaglen faes gynhwysfawr a llwyddiannus, gan gynnwys gweithdai, CD-ROM addysg ac arddangosfa aml-gyfrwng ryngweithiol.

Mae'r arddangosfa ar hyn o bryd ar gael i'w gweld yng Nghanolfan Ymwelwyr Tŷ Ddewi, Sir Benfro, a bydd yn dod i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Rhagfyr 2006.

Os ydych am weld crynodeb o'r adroddiad, gallwch glicio yma i

lawrlwytho'r pdf

.

Bydd yr adroddiad llawn ar gael yn fuan, cliciwch yma i lawrlwytho mwy o wybodaeth a ffurflen archeb, neu

cysylltwch ag Andrew mackie

Arolwg Daearegol Prydain: http://www.bgs.ac.uk

Bydd y gweithgareddau addysg a maes (Archwilio Gwely'r Môr) yn parhau drwy gydol 2006-2008 yn rhan o brosiect newydd Agregau Morol - Rhwydweithiau Gwyddoniaeth, Diwydiant, Stiwardiaeth a Phobl a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, English Nature, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Ystâd y Goron. Am fwy o wybodaeth,

cysylltwch â BC@museumwales.ac.uk

.

Os ydych am ddysgu mwy am fywyd a chynefinoedd morol: http://www.marlin.ac.uk/

Dyma rai prosiectau mapio gwely'r môr eraill:

HabMAP (Mapio cynefinoedd ar gyfer cadwraeth a rheoli yn rhan ddeheuol Môr Iwerddon): http://www.habmap.org

MESH (Mapping European Seabed Habitats): http://www.searchmesh.net