Gweminarau Natur am Byth

Mae biolegydd yn cymryd sampl o lyn o flaen mynyddoedd creigiog a gwyrdd yng Nghwm Caseg.

Ymunwch â'r curaduron hanes natur am weminar fyw, arbennig am rai o anifeiliaid a phlanhigion gwyllt mwyaf swil Cymru.

O'r falwen droellog fach sy'n cuddio mewn twyni tywod, i Gragen Gylchog Arctig llynnoedd mynyddig, a'r Wystrys oedd unwaith mor gyffredin yn ein moroedd, mae molysgiaid yn goroesi yn y gwyllt ym mhob cwr o Gymru.

Dysgwch sut a ble allwn ni ganfod ac adnabod y molysgiaid hyn, eu cyswllt â phobl, a beth sy'n cael ei wneud i'w harbed rhag marw allan. Mae'r weminar hon yn rhan o gyfres o brofiadau adnabod rhywogaethau ar-lein gan guraduron hanes natur Amgueddfa Cymru. ⁠Bydd ein curaduron yn defnyddio ffotograffau a fideos o'r Amgueddfa a chynefinoedd gwyllt i fynd â chi ar 'daith maes rithwir' er mwyn dangos beth sy'n unigryw am bob rhywogaeth, a'r gwaith i'w gwarchod.

Mae'r gyfres yn trafod detholiad o rywogaethau sydd wedi'u targedu gan Natur am Byth, partneriaeth adfer ledled Cymru sy'n uno naw sefydliad cadwraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rydyn ni'n dangos rhywogaethau llai adnabyddus, ac anodd eu hadnabod, yn fwriadol. Mae cynyddu cysylltiad pobl â'r rhywogaethau hyn yn un o amcanion pwysig Natur am Byth, ac mae'r weminar yn agored i unrhywun sydd â diddordeb ym mywyd gwyllt Cymru. ⁠

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Natur am Byth wedi ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda chefnogaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a noddwyr eraill sydd wedi'u rhestru ar wefan y rhaglen.