Bloedd – Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru
Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yw grwp pobl ifanc rhwng 16 – 25 oed sy’n byw yng Nghymru a chydweithio gyda’r Amgueddfa drwy gyfleoedd chyflogedig.
Hwn yw lle i ddyfnhau gwybodaeth a sicrhau bod mannau treftadaeth a diwyllianol yn fwy cynrychioliadol o’r bobl ifanc a’u diwylliannai niferus sy’n byw yng Nghymru neu o Gymru. Rydyn ni yma i wneud treftadaeth yn berthnasol.
Rydyn yn edrych ar gelf, treftadaeth a hunaniaeth, amgylcheddaeth, gwyddorau naturiol, hanes cymdeithasol ac archaeoleg drwy ein casgliadau a chyd-cynhyrchu digwyddiadau, gweithdai, arddangosfeydd, cyfryngau digidol cyhoeddiadau, grwpiau datblygu a mwy! Mae ein Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn gweithio’n agos gydag adrannau ar draws yr Amgueddfa i'n helpu ni ddyfnhau cynrychiolaeth yn ein casgliadau a rhaglenni, i adlewyrchu pob cymuned yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ehangu ein casgliadau LHDTC+, dad-drefedigaethu ein casgliadau a chasglu hanesion llafar ar hanes dosbarth gweithiol. Gall Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru hefyd ddod â’u syniadau neu bynciau y hoffen nhw archwilio trwy ein casgliadau!
Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bost i glywed am gyfleoedd ar draws yr Amgueddfa yma.
Cewch gysylltu drwy e-bostio engagement@museumwales.ac.uk. Dilynwch ni ar Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Bloedd!
Cynorthwyydd Digwyddiad - Cymerwch Ran 2027, Amgueddfa Lechi Cymru
Pwrpas y rôl: Rydyn ni’n chwilio am Gynhyrchydd Amgueddfa Cymru i'n helpu i ddatblygu a rhedeg gweithgareddau fel rhan o’n presenoldeb ni yn nigwyddiad Cymerwch Ran 2027, digwyddiad celfyddydau, llenyddiaeth a gwyddoniaeth flynyddol Venue Cymru i bobl 0-18oed a’u teuluoedd.
I weld beth wnaeth y cynorthwywyr digwyddiad y llynedd, edrychwch ar yr adran blogs isod.
Mae'r project ailddatblygu yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston, ynghyd â chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.
Sut i Gymryd Rhan?
Cofiwch ddarllen y Disgrifiad Rôl i wneud yn siŵr mai dyma'r rôl gywir i chi. Cofiwch ystyried yr ymrwymiad amser ac unrhyw ystyriaethau eraill rydyn ni wedi'u cynnwys.
Llenwch Ffurflen Gais a'i dychwelyd at bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy'r post at Adran Ymgysylltu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd CF5 6XB.
Rydyn ni'n derbyn ceisiadau dros y ffôn hefyd, neu drwy fideo neu glip sain byr. Ffoniwch (029) 2057 3002 am ragor o wybodaeth.
Os cewch chi eich dewis ar gyfer y rôl, byddwn ni’n cysylltu dros e-bost. Efallai y cewch eich gwahodd i gyfarfod anffurfiol neu ddiwrnod agored grŵp.
Allwn ni ddim gwarantu lle, ond rydyn ni'n sicrhau bod pob cais yn cael ei drin yn deg a bod pob un yn cael ei gyflwyno i oruchwyliwr y rôl i'w ystyried.