Cymryd rhan mewn ‘Cymerwch Ran’ 2026 – safbwynt artist ifanc, Cara Walker
, 8 Hydref 2026
Tra bod Amgueddfa Lechi Cymru ar gau dros dro ar gyfer prosiect ailddatblygu mawr, mae’r tîm wedi bod yn brysur yn teithio gyda’n ‘pop-ups’ ac yn mynychu digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Maent wedi bod yn treialu ac yn profi gweithgareddau fydd yn cael eu plethu i mewn i’r ailddatblygiad, ac yn rhannu’r cynlluniau gyda’n cymunedau. Darllenwch isod sut y rhoddwyd cyfleoedd llawrydd i weithwyr creadigol fel rhan o raglen Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn ystod y digwyddiad blynyddol ‘Cymerwch Ran’ yn Venue Cymru.
Cynllunio a pharatoi
Cefais daith rithiol o gwmpas y ganolfan gasgliadau ym Mangor. Roedd hyn yn hynod addysgiadol ac yn rhoi posibiliadau a syniadau da i mi ar gyfer creu gweithdai. Edrychwyd ar bethau fel enwau gweithwyr benywaidd oedd wedi'u cerfio ar swîts fwrdd teleffon; wagenni wedi'u creu gan grwpiau o chwarelwyr a fyddai'n eu cludo i ac o'r chwarel - byddai'r rhain yn cael eu haddurno gan grwpiau o ddynion a phob wagen yn unigryw; plât wedi'i gynllunio a'i greu'n ofalus gyda stribedi o lechi, pob un yn lliw gwahanol ac yn gysylltiedig ag ardal lechi penodol. Wrth edrych y tu hwnt i'r pethau ymarferol fel peiriannau ac offer, roedd gennyf ddiddordeb yng nghrefft y chwarelwyr, yn eu sgiliau creadigol a ddefnyddiwyd yn hollti a naddu llechi. Roedd llawer o gerfluniau llechi wedi'u creu gan chwarelwyr tu allan i'w oriau gwaith. Yr oedd y gwaith yn fanwl a chymhleth, adeiladau hardd a chlytiau o lechi wedi'u cerfio'n fanwl a gofalus gan ddefnyddio offer traddodiadol.
Syniadau Cyntaf Unigol
Roedd rhai o’r syniadau cychwynnol oedd gennyf wedi'u hysbrydoli gan wagenni'r chwarelwyr megis y Falwoden Lwyd, yr enw wedi’i beintio ar ochr un ohonynt. Roeddwn i'n hoffi'r syniad o addasu gwrthrych o’r casgliadau - yn enwedig un ble byddai rhywun yn cael y profiad o eistedd ynddo. Yn llawn brwdfrydedd meddyliais am greu wagen ble byddai cyfranogwyr yn gallu ei addurno ac eistedd ynddo. Sylweddolais yn gyflym na fyddai hyn yn bosibl oherwydd yn gyntaf byddai'r gofod i bob cyfranogwr gyfrannu ato yn gyfyngedig, gan godi'r cwestiwn am y niferoedd o wagenni - daeth hyn braidd yn hunllef ymarferol a logistaidd yn fy mhen. Fodd bynnag, efo’r syniad o’r casgliadau dal yn y cof, byddai cyfranogwyr yn gallu creu baner ar y cyd fel atgof am y chwarelwyr. Fel y wagenni - roedd y syniad o’r faner yn un cyffrous gan y byddai yn dipyn o faint ac yn eitem y gellid ei hongian neu ei arddangos.
Cyfarfod cyntaf gyda Iza
Ar ôl fy nhaith gychwynnol a chael amser i feddwl am syniadau cefais y pleser o gyd weithio gydag Iza, Artist Symudedd ar y prosiect yma gan gyfarfod yn gyntaf ar-lein. Fe wnaethom rannu ein canfyddiadau gan ystyried ein syniadau ac roedd yn ymddangos ein bod wedi ein denu at y cerfiadau llechen a’r merched a oedd wedi cerfio eu henwau ar y swîts fwrdd teleffon a'r syniad o faner. Deuthum i benderfyniad i ymchwilio yn benodol i fywydau merched a chwarelwyr tu allan i’r gwaith a beth roeddent yn ei wneud yn eu hamser hamdden. Penderfynwyd ar hyn wedi i Iza sôn am le tân oedd eisoes wedi’i greu fel prop ar gyfer arddangosfa ddiweddar a fyddai'n creu amgylchedd ystafell fyw wych.
Roedd trefniant ystafell fyw yn caniatáu i fwy o adrodd straeon ac addysg ddigwydd yn naturiol. Mi wnaethon feddwl am natur y gweithgaredd a sut i annog pobl i greu gyda’i gilydd drwy efallai eistedd mewn cylch yn hytrach na chael byrddau mewn rhesi a fuasai'n gwneud y gweithgaredd yn fwy ffurfiol ac annibynnol. Hefyd, beth arall allai ddenu pobl i mewn i ofod o’r fath? Gallai lluniau ar y wal ddenu pobl (os maent wedi’u gosod yn iawn) a rhoi caniatâd iddynt gamu mewn a chymryd golwg o’r hyn sydd yno. I lenwi’r ystafell ymhellach, roedden ni eisiau ychwanegu matiau rhacs oedd fel arfer yn cael eu gwneud gan y gwragedd, hongian lluniau o chwarelwyr fel pe baent yn bortreadau o'n teuluoedd ynghyd â darnau o’r casgliad fel addurniadau ar y lle tân.
Adroddiad Terfynol
Ar gyfer yr adroddiad terfynol roeddem yn gallu cynnwys bron pob elfen o'n dyluniad. Fel y gwelwch isod, ail-grewyd yr ymdeimlad o ystafell fyw gan ddefnyddio matiau rhacs. Roedd gennym ruban coch yn hongian uwchben y lle tân i hongian yr hyn grëwyd gan y cyfranogwyr. Roedd rhuban coch yn symbol a ymddangosai yn rheolaidd yn ein hymchwil megis ar faneri felly roedden ni eisiau cynnwys hyn yma hefyd.
Gan fod y digwyddiad takePart yn llawn bwrlwm a digwyddiadau amrywiol o dan yr un to nid oedd hi’n ymarferol i ni drefnu dylunio ac argraffu mewn fformat cylch ar y llawr. Yn hytrach na hynny roedd gennym dau fwrdd, un ar gyfer cerfio’r dylunio arno. Yma byddem yn egluro a chyflwyno beth oedd cerfio llechi yn draddodiadol gan gyfeirio at yr offer y byddai chwarelwyr wedi'u defnyddio. Defnyddiodd y cyfranogwyr yn lle hynny pensiliau, brigau a morthwylion pren bach i efelychu'r broses draddodiadol. Hefyd, roeddem yn darparu enghreifftiau o ddyluniadau crefft llechen a allai gael eu defnyddio fel ysbrydoliaeth.
Yna byddai'r cyfranogwyr yn symud ymlaen i'r bwrdd paent a chael dewis lliw yn seiliedig ar liwiau amrywiol y plât wedi'u gwneud gyda lliwiau gwahanol o lechen. Daeth y plât lechen hwn yn sail ar gyfer y printio. Gwnaethom hyn hefyd i addysgu pobl oedd yn galw heibio, doedd llawer ddim yn sylweddoli bod llechen yn amrywio yn ei liw. Creodd hyn hefyd elfennau ble gallai nifer o bobl ifanc gysylltu ag adnabod enwau oedd yn gyfarwydd iddynt fel Penrhyn.
Gwaith gorffenedig yn y gweithdy print
Yn gyffredinol roedd y gweithdy'n llwyddiant mawr, gyda dros 300 o gyfranogwyr! Cawsom amser hyfryd yn rhyngweithio gyda phobl ifanc oedd eisiau arbrofi gyda’r posibiliadau o brint fel defnyddio lliwiau niferus a haenau amrywiol. Cawsom hefyd ymateb gwych gan rieni oedd yn awyddus iawn i gymryd rhan gan eu hannog i greu printiadau unigryw eu hunain.
Mae prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston, a chyllidwyr eraill.