Y Rhaglen
Digwyddiad: Ymweld â Gwesty’r Vulcan
Dewch i ymweld â Gwesty’r Vulcan – yr adeilad hanesyddol diweddaraf yn Sain Ffagan.
Cafodd Gwesty'r Vulcan ei gofrestru fel tafarn (ale house) ym 1853, i wasanaethu’r gymuned Wyddelig yn bennaf yn lle oedd yn cael ei alw’n Newtown ar y pryd. Yn ystod ei hanes hir fe welodd newidiadau mawr wrth i Gaerdydd dyfu’n ganolfan ddiwydiannol a phrifddinas y genedl. Caeodd drysau’r dafarn am y tro olaf yn 2012.
Mae’r Vulcan yn cael ei chyflwyno fel ag yr oedd hi yn 1915, blwyddyn bwysig i’r dafarn. Roedd hi newydd weld gwaith ailwampio mawr pan ychwanegwyd y teils brown a gwyrdd ar flaen yr adeilad, ac ail-ddylunio’r ystafelloedd.
Gallwch chi brynu diod, neu mwynhau’r awyrgylch a phrofi sut lle oedd y Vulcan yn 1915.
Gwybodaeth i ymwelwyr:
• Rydyn ni’n disgwyl bydd y dafarn yn brysur iawn am yr wythnosau cyntaf a bydd rhaid i chi giwio i gael mynediad
• Does dim hawl mynd a phramiau neu cŵn i mewn i’r dafarn
• Mae croeso i chi ymweld â’r Vulcan heb brynu diod
• Does dim rhaid archebu le o flaen llaw.
Dysgwch mwy am hanes y dafarn
Archebwch ddetholiad o gwrw