7-8 Medi 2024

Y Rhaglen

Digwyddiad: Siopau'r Amgueddfa

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
7 a 8 Medi 2024 , 10am-6pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Lleoliad: Siop Anrhegion (1) a Gwalia (22)

Ymwelwch â Siop Gwalia a siop anrhegion yr Amgueddfa yn y brif adeilad i weld yr amrywiaeth eithriadol o fwyd a diod Cymreig sydd ar gael. Adeiladwch eich hamper eich hun yn llawn danteithion blasus gan gynhyrchwyr lleol yn ogystal ag amrywiaeth unigryw o gynnyrch tymhorol a dyfir ar y safle.

Yn ystod penwythnos yr Ŵyl Fwyd, bydd ein siopau hefyd yn cynnal llawer o weithgareddau bwyd gan gynnwys cyfle i gwrdd â rhai o'r cynhyrchwyr, sesiynau blasu am ddim, llofnodi llyfrau a mwy!

Digwyddiadau