Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Rhaglen yr Ŵyl

13-14 Medi 2025

Y
Rhaglen

Llun o du fewn y bar yn Westy'r Vulcan

Bar Gwesty'r Vulcan 

Ymweld â Gwesty’r Vulcan

Dewch i ymweld â Gwesty’r Vulcan – yr adeilad hanesyddol diweddaraf yn Sain Ffagan.

Mae'r Vulcan ar agor 12pm - 4pm bob dydd.

Cafodd Gwesty'r Vulcan ei gofrestru fel tafarn (ale house) ym 1853, i wasanaethu’r gymuned Wyddelig yn bennaf yn lle oedd yn cael ei alw’n Newtown ar y pryd. Yn ystod ei hanes hir fe welodd newidiadau mawr wrth i Gaerdydd dyfu’n  ganolfan ddiwydiannol a phrifddinas y genedl. Caeodd drysau’r dafarn am y tro olaf yn 2012.  

Mae’r Vulcan yn cael ei chyflwyno fel ag yr oedd hi yn 1915, blwyddyn bwysig i’r dafarn. Roedd hi newydd weld gwaith ailwampio mawr pan ychwanegwyd y teils brown a gwyrdd ar flaen yr adeilad, ac ail-ddylunio’r ystafelloedd.

Gallwch chi brynu diod, neu mwynhau’r awyrgylch a phrofi sut lle oedd y Vulcan yn 1915.

Gwybodaeth i ymwelwyr:

• Rydyn ni’n disgwyl bydd y dafarn yn brysur iawn am yr wythnosau cyntaf a bydd rhaid i chi giwio i gael mynediad           
• Does dim hawl mynd a phramiau neu cŵn i mewn i’r dafarn           
• Mae croeso i chi ymweld â’r Vulcan heb brynu diod  
• Does dim rhaid archebu le o flaen llaw.

Cwestiynau Cyffredin (PDF)


 

Dysgwch mwy am hanes y dafarn          
Beth am fynychu cwis yn Y Vulcan